Perfformiad iechyd yn gymysg yng Nghymru yn ôl ffigyrau
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth amseroedd aros ar gyfer cleifion yn unedau brys Cymru barhau'n wastad fis diwethaf, yn ôl y ffigyrau iechyd diweddaraf.
Maen nhw'n dangos gwelliant mewn amser ymateb ambiwlansys, ond mae GIG Cymru yn parhau ar ei hôl hi ar dargedau aros am driniaeth canser.
Am y tro cyntaf, mae saith casgliad o ffigyrau'r GIG wedi'u rhyddhau ar yr un diwrnod.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod yw creu darlun mwy clir o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys wedi cyrraedd 77.9% o'r galwadau mwyaf brys o fewn wyth munud, o'i gymharu â'r targed o 65%.
Dyma'r ffigwr gorau i'r gwasanaeth ers mis Tachwedd.
Amseroedd aros mewn unedau brys
Bu'n rhaid i 3,206 o gleifion ddisgwyl mwy na 12 awr mewn unedau brys ym mis Mawrth, a bu 81% o gleifion yn disgwyl llai na phedair awr - yr un lefel â'r mis blaenorol.
Y targed yw y dylai 95% o gleifion gael eu trin o fewn pedair awr, ac na ddylai unrhyw un ddisgwyl dros 12 awr.
Amseroedd aros ar ôl cael eu cyfeirio
4.5% o gleifion sy'n disgwyl mwy na 36 wythnos am driniaeth ysbyty ar ôl cael eu cyfeirio yno gan feddyg teulu, ac mae'r ffigwr yma wedi parhau i ostwng ers mis Awst 2015.
Mae mwy o bobl hefyd - 86.9% - yn dechrau eu triniaeth o fewn 26 wythnos.
Oedi yn symud gofal
Fe wnaeth 400 o gleifion wynebu oedi yn cael eu symud o'r ysbyty i gam nesaf eu gofal ym mis Mawrth.
530 oedd y ffigwr yma flwyddyn yn ôl, ac mae wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf o 650.
Amseroedd aros am ddiagnosis
Mae nifer y cleifion sy'n disgwyl mwy nag wyth wythnos am ddiagnosis penodol wedi gostwng o dros 9,000 ym mis Ionawr i lai na 7,000 ym mis Chwefror.
Gwelwyd gostyngiad bychan hefyd yn y nifer sy'n disgwyl mwy nag 14 wythnos.
Amseroedd amser canser
Mae'r ffigyrau yn dangos bod bron i 87% o gleifion wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod, o'i gymharu â'r targed o 95%.
Fe wnaeth 97% o'r cleifion gafodd ddiagnosis o ganser am y tro cyntaf ddechrau eu triniaeth o fewn 31 diwrnod, ychydig yn fyr o'r targed o 98%.