Mwslimiaid Ahmadi yn 'wynebu anffafriaeth' yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Mosg Ahmadiyya
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymuned Ahmadi yn addoli ym mosg Ahmadiyya yn ardal Treganna

Mae aelodau o sect Fwslimaidd yng Nghaerdydd yn honni eu bod yn wynebu anffafriaeth gan Fwslimiaid eraill yn y ddinas.

Dywedodd aelodau o fosg Ahmadiyya yn ardal Treganna bod Mwslimiaid eraill wedi troi eu cefnau arnynt.

Mae un yn honni iddo gael ei ddiswyddo o fwyty, tra bo un arall yn dweud ei fod wedi'i dargedu am werthu llyfrau Islamaidd.

Yn Pacistan, mae Mwslimiaid eraill wedi diarddel Mwslimiaid Ahmadi am nad ydyn nhw'n credu mai Mohammed oedd y proffwyd olaf.

Dywedodd Cyngor Mwslimaidd Cymru ei fod yn "casáu" unrhyw fath o erledigaeth.

Fe wnaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gadarnhau eu bod wedi derbyn sylw am y mater.

'Uno Mwslimiaid'

Eglurodd y Cyngor Mwslimaidd mewn datganiad: "Dyw Mwslimiaid Sunni a Shia ddim yn cydnabod Mirza Gulam Ahmad fel y Meseia, tra bo'r Ahmadiyya yn gwneud hynny.

"Rydyn ni'n casáu unrhyw erledigaeth yn seiliedig ar grefydd, hil, rhyw, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol ac yn cefnogi rhyddid crefyddol i bawb, gan gynnwys yr Ahmadiyya.

"Mae hyn yn un o'r gwerthoedd sy'n uno Mwslimiaid a grwpiau ffydd ar draws y byd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mubarik Bashir ac Arshid Mahmood eu bod wedi wynebu anffafriaeth

Mae llai na 150 o Fwslimiaid Ahmadi yng Nghaerdydd, a daeth nifer ohonynt i'r ddinas ar ôl cael eu herlid yn Pacistan.

Dywedodd Mubarik Bashir ei fod wedi cael ei ddiswyddo o fwyty yn y ddinas oherwydd ei gredoau.

"Fe ddywedon nhw wrtha i 'Rwy'n meddwl dy fod di'n Ahmadi. Dyw fy nghwsmeriaid ddim yn hapus. Plîs gadewch y swydd'," meddai.

Ychwanegodd aelod arall o'r gymuned, Arshid Mahmood, bod rhywun wedi ymosod arno ar lafar am werthu llyfrau Islamaidd.