Cynllun i gefnogi cyn filwyr hŷn yn dechrau
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd fydd yn cefnogi cyn filwyr hŷn yn dechrau ar ôl derbyn grant o £1m.
Age Cymru, Age Alliance Cymru a chanolfan Woody's Lodge sydd wedi llwyddo i gael yr arian o nawdd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Byddan nhw'n gweithio gyda'i gilydd ar Prosiect 360° i daclo materion fel unigrwydd, iechyd a llesiant.
Y nod yw cefnogi mwy na 10,000 o gyn filwyr pan fydd y cynllun tair blynedd yn dechrau.
'Gwahaniaeth go iawn'
Canolfan ar gyfer cyn filwyr a chyn filwyr oedd yn gweithio gyda'r gwasanaethau argyfwng yw Woody's Lodge ym mhentref Sili ym Mro Morgannwg.
Mae'n cynnig cyfle iddyn nhw allu cysylltu gydag elusennau, cael cyngor, cwnsela ac yn lle iddyn nhw gymdeithasu gyda chyn filwyr eraill.
Gobaith Prosiect 360° yw agor canolfan tebyg yng ngogledd Cymru.
Dywedodd David Trottman o Woody's Lodge: "Mae hyn yn ddatblygiad cynhyrfus ac fe fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd a helpu mwy o gyn filwyr trwy roi mynediad iddyn nhw i wasanaethau allai newid eu bywydau."
Yn ôl Ian Thomas, prif weithredwr Age Cymru mae'r £1m o nawdd yn golygu y bydd y cynllun yn gallu "gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cyn filwyr hŷn yng Nghymru".