Ateb y Galw: Christine Pritchard
- Cyhoeddwyd
Yr actores Christine Pritchard sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Catherine Tregenna yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
O'n i tua pedair neu bump oed - cael tynnu fy nhonsils yn Ysbyty C+A Bangor. Atgof hunllefus o fyw yn y cof - y tro cyntaf imi fod oddi wrth fy rhieni, nyrs flin yn brwshio 'ngwallt a phoeri gwaed du i ryw fowlen enamel.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Fy athro Lladin (yn edrych fel centurion Rhufeinig imi!) Dyna pam es i astudio Lladin yn y Brifysgol. Hefyd Sidney Poitier yn y ffilm Heat of the Night.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Yn 1971 mewn cyfweliad i Theatr Everyman Lerpwl efo Alan Dossor (ro'n i'n adnabod o o Brifysgol Bryste) sylweddoli y dylwn fod wedi dysgu'r darnau nid eu darllen!! Dal i wrido!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Pan gollais fy ffrind annwyl o 50 mlynedd a gorfod rhoi teyrnged iddi yn yr eglwys.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Byta'n mysedd, ochra'r gewyn (Mam yn d'eud y byddwn yn marw o blood poisoning). Dwi yma o hyd Mam! Prinder hunan-ddisgyblaeth.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Fy ngharafán uwchben y môr yn Sir Benfro - am y golau arbennig, y distawrwydd a'r Preseli. Cei Caernarfon yn holl bwysig hefyd, atgofion melys plentyndod a'r olygfa hudolus tuag at Sir Fôn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson y llwyddodd fy ffrindia' Bryn, Penri, Olwen a mi orffen taith o 18 milltir ar yr hen lwybr Rufeinig o Gaersws er mwyn codi arian i anfon llyfrau a.y.y.b i ysgolion yn Affrica. Roedd y gwin yn felys tu hwnt!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Optimist. Hedonist. Ffrind da.
Beth yw dy hoff lyfr?
Sonnets Shakespeare rŵan. Luned Bengoch pan yn blentyn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Fy nhad Stanley a fu farw yn 1975, er mwyn adrodd hynt fy mywyd er hynny a chyflwyno fy merch Angharad a'i mab Isaac.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Denial, am yr achos llys yn erbyn David Irving (sy'n honni na fu Holocaust). Mae Rachel Weiz yn rhoi perfformiad ysgytwol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Casglu fy ffrindia' o bob man yn y byd a bwyta'r bwyd gora', yfed y gwin gora', Bob Dylan yn canu Forever Young a minna'n teimlo mor freintiedig o fod wedi eu 'nabod yn fy mywyd.
Dy hoff albwm?
Cerddoriaeth Frank Sinatra, Ella Fitzgerald a Diana Krall.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?
Prif gwrs - sag balti a tarka dhal. Dim lle i bwdin!!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Fi fy hun yn 21, er mwyn cael ad-fyw holl brofiadau ac anturiaethau fy mywyd - mae o'n rhy fyr o lawer!
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Olwen Rees.