Cyfyngiadau ffliw adar Cymru i ddod i ben ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
DofednodFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd cyfyngiadau ar gadw dofednod ac adar caeth yng Nghymru i atal gwasgariad ffliw adar yn dod i ben ddydd Llun.

Cafodd gorchymyn i beidio a gadael adar allan i'r awyr agored ei wneud ym mis Rhagfyr yn dilyn achosion o ffliw ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Sir Gâr a Sir Lincoln.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths bod y perygl wedi gostwng, ac na fyddai'r gwaharddiad yn cael ei adnewyddu pan fydd yr un presennol yn dod i ben ar 30 Ebrill.

Er hynny, fe wnaeth Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop annog perchnogion adar i barhau'n wyliadwrus.

Dywedodd: "Hoffwn bwysleisio'r pwysigrwydd i bawb sy'n cadw dofednod neu adar eraill i barhau'n wyliadwrus am arwyddion o'r afiechyd ac i gysylltu gyda milfeddygon os oes pryderon."

Ychwanegodd bod parhau i lanhau dillad, offer a cherbydau yn "hanfodol".