Cynllun i leddfu straen gweithwyr y gwasanaethau brys

  • Cyhoeddwyd
PlismynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 90% o weithwyr y gwasanaethau brys wedi profi straen a 25% wedi ystyried cyflawni hunanladdiad, yn ôl un elusen iechyd meddwl.

Ddydd Iau, bydd Mind Cymru yn cyhoeddi manylion cynllun a fydd yn helpu 20,000 o weithwyr y gwasnaethau brys a'r rhai sy'n gweithio i wasanaethau achub.

Bydd Rhaglen y Golau Glas yn cynnig hyfforddiant i staff ar sut i ddelio gydag amrywiol sefyllfaoedd a bydd rheolwyr yn cael cyngor hefyd ar sut i helpu.

Mae arolwg gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn dangos fod gweithwyr y gwasnaethau brys yn llai tebygol o golli diwrnodau o'r gwaith oherwydd salwch.

Yn ôl ystadegau, mae llai na 40% yn cymryd amser i ffwrdd oherwydd iechyd meddwl - 60% yw'r canran mewn galwedigaethau eraill.

'Mae'n amser gofyn am gymorth'

Dywedodd cyfarwyddwr Mind Cymru, Sara Moseley: "Mae gweithwyr cerbydau y golau glas yn gwneud gwaith heriol dros ben gydol y dydd ac yn aml maen nhw'n wynebu sefyllfaoedd anodd a thrawmatig.

"Nid yn unig y mae nifer o'r gweithwyr hyn yn ei chael hi'n anodd delio gyda'u hafiechyd meddwl, mae nhw hefyd yn llai tebygol na gweithwyr eraill i ofyn am genfogaeth ac i gymryd amser bant o'r gwaith."

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar bump maes, gan gynnwys delio â stigma a thriniaeth annheg gan gyflogwyr, dysgu sut i wrthsefyll iechyd meddwl a gwella cefnogaeth adre ac yn y gwaith.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol De Cymru Jonathan Drake: "Mae'n bwysig siarad er mwyn dangos bod materion yn ymwneud ag afiechyd meddwl yn gallu cael eu trafod yn agored."

Dywedodd Claire Vaughan ar ran Ambiwlans Cymru ei bod yn bwysig rhoi cefnogaeth i'r rhai sy'n "cefnogi ac yn arbed bywyd pobl fregus bob awr o'r dydd."