Cyhoeddi lleoliad 12 o orsafoedd trenau newydd posib
- Cyhoeddwyd
Gallai 12 o orsafoedd rheilffordd newydd gael eu hagor yng Nghymru, fel rhan o gynlluniau gan y llywodraeth.
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi ysgrifennu at ACau yn enwi'r safleoedd posib ar gyfer y gorsafoedd newydd.
Maen nhw'n cynnwys gorsafoedd mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam ac Ynys Môn.
Mae'r 12 cynnig yn cynnwys:
Llangefni
Bow Street
Caerdydd: Parc Victoria/Melin Trelái
Caerdydd: Ffordd Casnewydd/Rover Way
Caerdydd: Llaneirwg
Casnewydd: Llanwern
Abertawe: Cocyd
Abertawe: Glandŵr
Sanclêr
Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
Gogledd Wrecsam
De Wrecsam
Yn ei lythyr, dywedodd Mr Skates fod y rhan gyntaf o broses tri cham wedi ei chwblhau, a'i fod wedi llunio rhestr fer o 12 allan o 46 dewis posib.
"Bydd ail ran yr asesiad yn edrych yn fwy manwl ar yr achosion ariannol ac economaidd ar gyfer y gorsafoedd rheilffordd newydd, gan gynnwys gofyn am gyngor gan Network Rail ar y mater."
Roedd gan Bow Street, Llangefni a Sanclêr orsafoedd rheilffordd prysur yn ystod yr 19eg Ganrif, ond daeth y teithio i ben yn y 1960au yn dilyn toriadau Dr Beeching.