Ateb y Galw: Olwen Rees

  • Cyhoeddwyd
olwen

Olwen Rees sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Christine Pritchard yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf yn dair oed yw bod mewn cot yn 28 Eleanor Street, Caernarfon yn chwarae efo Terry, ci drws nesa' a'r cot yn torri.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Roeddwn yn ffansio Jeremy Spencer ar ôl ei weld yn y ffilm It's Great to be Young.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Roedd cywilydd mawr arnai yn yr ysgol ramadeg pan o'n i wedi chwarae tric ffŵl Ebrill ar yr athro - smalio bod wedi llewygu ac fel ro'n i ar y llawr y prifathro'n cerdded mewn. Roedd o eisiau anfon am ambiwlans gan feddwl mod i 'di llewygu go iawn! Roedd yn rhaid i mi ddweud wrthyn nhw ei bod hi'n gynta' o Ebrill!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Y tro diwethaf i mi grio oedd yr wythnos diwethaf pan glywais y newyddion trist bod fy nghyn ŵr wedi marw'n sydyn.

Disgrifiad o’r llun,

Olwen gyda Sharon Morgan yn ymarfer ar gyfer y sioe Dandelion.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod yn enwedig bara menyn a thatws!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dinas Dinlle. Atgofion melys o aros yn y garafán (hen fws!), nofio ar ôl dod adre o'r ysgol a chodi am bump y bore i fynd i gasglu madarch yn Llandwrog a dod â nhw adre i Mam eu ffrio nhw i frecwast.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Tra yn y Coleg Normal ym Mangor, aros ar ein traed trwy'r nos i wylio'r haul yn codi a chlywed y dawn chorus. Roeddan ni wedi mynd â'n gwelyau i un ystafell.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hapus, bodlon, diolchgar.

Disgrifiad o’r llun,

Fel Oli Olwyn (chwith) roedd Olwen yn cael ei hadnabod i blant Cymru yn y 70au oedd wrth eu boddau gyda'r gyfres eiconig Teliffant

Beth yw dy hoff lyfr?

Pride and Prejudice.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Harri VIII, er mwyn trio arbed uno Cymru a Lloegr yn 1536!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

The Time of their Lives, ffilm diweddar Joan Collins. Ddim yn ffefryn.

Ffynhonnell y llun, National Theatre Wales
Disgrifiad o’r llun,

Olwen yng nghynhyrchiad National Theatr Wales o 'Before I Leave'

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i Fenis gyda fy ffrind, Christine Pritchard ac ail fyw ein gwyliau yno.

Dy hoff albwm?

Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band gan y Beatles.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Prif gwrs a chwadan efo'r trimins i gyd!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Henry Moore, y cerflunydd.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Betsan Llwyd