Diabetes: 'Angen gwneud mwy' i blant a phobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy ar gyfer plant a phobl ifanc sydd gyda diabetes math un, yn ôl pennaeth polisi elusen.
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, roedd Sara Morgan o Diabetes UK yn ymateb i adroddiad 'Datganiad Cynnydd Blynyddol ar gyfer Diabetes' gan Lywodraeth Cymru oedd yn awgrymu bod gofal ar gyfer plant sydd gyda'r cyflwr yn gwella yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd o 17.8 % yn 2014-15 i 27.2% yn 2015-16 yn nifer y plant a phobl ifanc sydd â diabetes math un ac sy'n llwyddo i gael lefel digonol o glwcos i'w gwaed.
Wrth ymateb i'r canlyniadau, dywedodd Sara Morgan ei bod hi "dal i gael profiadau negyddol gan rieni," er i'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ddweud bod y canlyniadau yn "newyddion da i blant a phobl ifanc."
Meddai Ms Morgan: "Ni'n edrych ar pa mor gyflym mae rhywun yn cael ei ddeiagnosis - ar hyn o bryd mae hyn yn dal yn eitha araf yn enwedig i blant a phobl ifanc.
"Ni hefyd yn edrych ar fywyd hefo diabetes a phryd ni'n edrych ar blant a phobl ifanc ni'n golygu gofal mewn ysgolion ac mae hyn yn dal i fod yn amrywiol iawn yng Nghymru a ni'n dal i gael profiadau negyddol iawn gan rieni," meddai Ms Morgan.
'Gwelliannau'
Wrth drafod darganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Vaughan Gething: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod gofal diabetes pediatrig wedi gwneud camau breision mewn perthynas ag ansawdd y gofal a'r canlyniadau a welwyd dros y chwe blynedd diwethaf.
"Bydd effaith y gwelliant yn lefelau'r glwcos yn y gwaed ynghyd â rhai o'r gwelliannau mewn rhai o'r prosesau gofal hanfodol yn lleihau'r risg o gymhlethdodau yn y dyfodol. Mae hyn yn newyddion da i blant a phobl ifanc."
'Rheoli'r clefyd'
Dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru:
"Gallai diabetes gael cryn effaith ar lesiant corfforol a seicolegol unigolion a'u teuluoedd. Er hynny, gyda rheolaeth ofalus, dewisiadau iachus o ran eich ffordd o fyw a rheolaeth dda ar lefel y glwcos yn y gwaed, mae'r risg o gymhlethdodau yn lleihau'n sylweddol.
"Yn ystod 2015-16, bu cynnydd parhaus o ran gofalu am gleifion sydd â diabetes yng Nghymru. Ar lefel Cymru gyfan, mae gwelliannau wedi digwydd o ran seilwaith, gan gynnwys creu nifer o swyddi arweinyddiaeth a strwythurau cyflenwi yn genedlaethol.
"Wedi dweud hyn, rydym yn dal i weithio er mwyn sicrhau bod safonau yn gyson uchel ar draws y system a bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
"Blaenoriaeth i ni yw sicrhau bod oedolion sydd â diabetes yn cael yr wyth archwiliad iechyd, dyna pam ein bod yn cydweithio â'r GIG i sicrhau bod yr archwiliadau yn cael eu cwblhau ac yn darparu mwy o gyfleoedd i ddysgu am ddiabetes er mwyn i bobl fod mewn gwell sefyllfa i reoli'r clefyd eu hunain."