Hoff athrawon sêr Cymru

  • Cyhoeddwyd

Pwy oedd eich ffefryn chi? Gawsoch chi'ch ysbrydoli yn y 'stafell ddosbarth?

A hithau'n wythnos ola'r tymor yn ysgolion Cymru, bydd plant ar hyd a lled y wlad yn diolch i'w hathrawon am eu gwaith trwy'r flwyddyn, cyn gadael am yr haf.

Ond beth am rai o wynebau cyfarwydd Cymru, pwy oedd yr athrawon oedd yn ddylanwad mawr arnyn nhw? Fe aeth Cymru Fyw â nhw yn ôl i'r dosbarth:

Ffynhonnell y llun, S4C

Dangos ffydd

Mae'r actor Robin Ceiriog, sy'n chwarae rhan yr athro Mathew Parry yn Rownd a Rownd yn ddyledus iawn i'r diweddar Derec Williams:

"Os oes rhaid i fi enwi un athro, byswn i'n dweud y diweddar Derec Williams. Er mai athro Maths oedd o yn Ysgol Berwyn Y Bala, fo oedd hefyd yn gyfrifol am y sioeau cerdd. Dwi'n cofio un flwyddyn, r'on i'n rhy ifanc i gael un o'r prif rannau yn y sioe Annie, ond dangosodd Derec ddigon o ffydd yndda i a rhoi'r rhan Rooster i fi. A dyna pryd benderfynias fy mod am fod yn actor.

"Fe gymerodd o fi o dan ei adain ac roedd cael fy nghyfarwyddo ganddo yn brofiad anhygoel.

"Fe ddechreuodd glwb drama yn yr ysgol ac mi roedd o wrth ei fodd yn gweld pobl ifanc yn ffeindio cariad at ddrama, fe wnaeth o annog lot fawr o bobl ifanc.

"Dwi'n gweithio efo mab Derec, (Meilir Rhys Williams sy'n chwarae rhan Rhys) ar Rownd a Rownd a fedrai weld Derec ynddo fo, mae'n fy atgoffa i o'i dad ac mae'n neis ei gael o'n gweithio efo ni."

Byd newydd

Mae Bethan Rhys Roberts, cyflwynydd Newyddion 9 ar S4C, yn cofio ei hathrawes Ffrangeg yn Ysgol Tryfan, Bangor yn ddylanwad mawr ar ei bywyd:

"Er bod sawl un yn dwyn i'r cof, byddai'n rhaid dewis f'athrawes Ffrangeg i yn Ysgol Tryfan sef Mrs Margaret Thomas. Dwi'n cofio fy ngwers gyntaf erioed yn ei hystafell ddosbarth ar y llawr cyntaf yn edrych allan dros Eryri… ac mi wnes i ddisgyn mewn cariad â'r iaith. Dyma gyfarfod teulu Bertillon yn y gwerslyfrau hen ffasiwn Le Francais d'Aujourd'hui ac agor y drws ar fyd newydd.

"Roedd hi'n athrawes draddodiadol iawn yn ein trwytho ni mewn gramadeg a berfau - ac er bod hynny'n gallu bod yn drwm ac yn ddiflas ar brydiau dwi'n mor ddiolchgar iddi am roi'r seiliau cadarn ieithyddol 'na - oedd yn ei gwneud hi'n haws wedyn i fynd ati i ddysgu ieithoedd eraill. Erbyn yr arholiadau Lefel A roedd hi'n ein cyflwyno ni i fyd Camus, Ionesco a Sartre gan agor y meddwl yn llwyr.

"Doedd 'na fawr o hwyl yn y gwersi - roedd popeth yn gorfod bod yn ei le, yn gywir, dim sŵn, dim ffwdan. Roedd hi'n llwyddo i ddofi dosbarth swnllyd iawn wrth daro ei phren mesur ar y bwrdd yn dwt a gorchymyn tawelwch gyda "Taissez-vous!" digon poleit.

"Rywsut roedd y tactegau'n gweithio ac 'roedd hi'n llwyddo i werthu pwysigrwydd berfau afreoliadd yn y modd dibynnol fel tasa hi'n Amen arno ni i gyd hebddyn nhw! Yr her bob gwers oedd trio gwneud iddi chwerthin - doedden ni ddim yn llwyddo'n aml. Ond heb angerdd Mrs Thomas am yr iaith, go brin y byddwn i wedi dewis astudio Ffrangeg ac mi fyddai bywyd wedi bod tipyn tlotach!"

Peidio torri corneli

"Fy athro Celf i yn Ysgol Uwchradd Tregaron oedd yr artist Ogwyn Davies," meddai cyflwynydd BBC Radio Cymru, Geraint Lloyd.

"Dwi'n cofio unwaith, pan o'n i'n clirio fyny ar ôl gwers arlunio, ro'n i'n glanhau'r offer ac fe ddwedes i ar ôl gorffen "mae'n ddigon da". Odd Ogwyn Davies yn sefyll y tu nôl i fi a dywedodd e "sdim y fath beth â digon da, mae'n rhaid neud y job yn iawn bob tro."

"Mae hwnna'n rhywbeth sydd wedi aros gyda fi trwy pob agwedd o fy mywyd, bod hi'n bwysig i beidio torri corneli. Mae'n rhywbeth fyddai'n dweud wrth fy mab hefyd, i drio ei orau bob tro."

Ffynhonnell y llun, Regan Management

"Tria dy ore"

Mae Elen Morgan yn actores yn y gyfres Rownd a Rownd, yn chwarae rhan yr athrawes Llio James. Ei hathrawes Cerdd a roddodd yr hyder iddi i berfformio meddai:

"Yr athrawes a'n helpodd i fwya' oedd Eirian Jones fy athrawes Cerdd. Fe wnes i astudio TGAU a Lefel A Cerddoriaeth tu fas i'r ysgol, ro'n i'n teithio o Landysul i Gwmann ger Llambed i gael gwersi gydag Eirian Jones bob dydd Sul.

"Roedd hi'n athrawes anhygoel. Roedd hi'n rhoi cymaint o'i hamser ac roedd hi mor brofiadol, fe wnes i ddysgu cymaint. Roedd yn bwnc anodd ac oedd yn rhaid cyfansoddi ac mi roedd hi'n llawn syniadau i'n helpu i.

"Hi ddysgodd fi i ganu hefyd ac mae'r cyngor a'r hyfforddiant roddodd hi i fi i gystadlu mewn eisteddfodau wedi bod yn fuddiol iawn i fi yn fy ngyrfa. Roedd hi wastad yn dweud "tria dy ore, sdim gwahaniaeth os na fyddi di'n ennill, dim ond i ti fod yn hapus gyda dy berfformiad".

"Fe wnaeth hi roi cymaint o hyder i fi, dwi'n ddiolchgar iawn iddi."

Amyneddgar a llym

Ar wefan Youtube, mae fideo, dolen allanol o'r actor Rhys Ifans yn rhoi teyrnged i'w hoff athro yn ystod ei ddyddiau ysgol ym Maes Garmon Yr Wyddgrug:

"Dwi am ddiolch i fy athro Celf yn yr Ysgol Uwchradd sef Alan Victor Jones. Roedd o'n amyneddgar ac yn llym ond hefyd yn ein gadael ni i wneud fel y mynnon ni, pan o'n i mewn oedran yr oedd angen i hynny ddigwydd.

"Flynyddoedd wedyn, dwi wedi sylweddoli cymaint o ysbrydoliaeth oedd o bryd hynny. Roedd o'n athro hyfryd a dwi am ddiolch iddo, ac ymddiheuro i bron bob un o'r athrawon eraill a ddes i ar eu traws!"

'Ysgol unigryw'

Yr haf diwethaf, bu Ioan Gruffudd yn ymweld ag Ysgol Gyfun Glantaf, lle bu'n ddisgybl yng Nghaerdydd, wrth ffilmio'r rhaglen Coming Home ar gyfer BBC Wales. Tra bu yno cwrddodd â chyn athrawon bu'n ddylanwad arno, a dywedodd wrth Cymru Fyw:

"Tra'n ffilmio Coming Home roedd hi'n braf cael mynd yn ôl i fy hen ysgol, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae gen i lawer i ddiolch i'r ysgol. Ro'n i wedi cael shwt gymaint o gyfleoedd i ganu ac adrodd.

"Ro'n i'n perfformio yn gyson gyda'r gerddorfa a bandiau'r ysgol ac yn ennill mewn eisteddfodau. Mae hi'n unigryw rwy'n credu fel ysgol ac wedi rhoi llwyfan da i mi a fy ffrind Matthew Rhys ac actorion eraill fel Erin Richards a Iwan Rheon sydd wedi gwneud enw iddyn nhw eu hunain yma yn America."

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n gweithio ddwy ffordd - mae Ysgol Glantaf yn falch o'u cyn-ddisgyblion hefyd