Grant o £5m i gefnogi cynllun archif ddarlledu

  • Cyhoeddwyd
bbcFfynhonnell y llun, Right Acres
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i BBC Cymru baratoi i symud i adeilad newydd yng nghanol dinas Caerdydd yn 2019

Mae prosiect gwerth £9m i greu archif ddarlledu genedlaethol wedi cael nawdd loteri gwerth £5m.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a BBC Cymru yn mynd i ddatblygu cynlluniau i alluogi'r cyhoedd i gael mynediad i archif y darlledwr.

Bydd hyn ar gael mewn pedwar o ganolfannau digidol yn Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Dywedodd Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, y byddai'n "gwarchod ffynhonnell hanfodol o dreftadaeth ein gwlad".

Mae'r archif o tua 160,000 o recordiadau, sy'n dyddio'n ôl i'r 1930au, ac yn cynnwys darllediadau o'r yr Ail Ryfel Byd, trychineb Aberfan, a streic y glowyr.

Bydd tua 1,000 o glipiau o raglen hefyd yn cael eu gwneud ar gael i bobl wylio ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cydweithio â BBC Cymru i ddatblygu'r cynllun archif

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi arian fel y gall y llyfrgell a'r BBC Cymru gynhyrchu cynllun busnes manwl erbyn mis Mawrth i gael eu hystyried am y grant o £4.9m.

Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i BBC Cymru baratoi i symud i adeilad newydd yng nghanol dinas Caerdydd yn 2019.

Mae Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gweithio gyda'r gorfforaeth i storio recordiadau gwreiddiol yn eu hadeilad yn Aberystwyth.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, y byddai'r "bartneriaeth di-gynsail yma" yn golygu fod "yr adnoddau anhygoel hyn ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru gyfan".