Arddangos car Cymreig o goed yn Amgueddfa'r Glannau

  • Cyhoeddwyd
Car coedFfynhonnell y llun, Deregallera Ltd

Mae prototeip o gar trydan newydd sydd wedi ei gynhyrchu o goed yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ddydd Sadwrn.

Cafodd y Glanaf ei gynllunio a'i adeiladu gan Deregallera Ltd yng Nghaerffili.

Mae'n rhedeg ar drydan ac wedi ei wneud o goed cedrwydd coch, sy'n ddeunydd cryf ond ysgafn.

Yn ogystal ag edrych yn wahanol, mae'r cerbyd tair olwyn yn go wahanol i'w yrru, gyda'r gyrrwr yn ei lywio drwy ddefnyddio ffon yn hytrach na'r olwyn draddodiadol.

Mae'n cael ei arddangos fel rhan o ŵyl Cerbydau Cymru, sydd hefyd yn cynnwys cerbydau fel y Trabant ac enghraifft o gar clasurol y Gilbern a wnaed yng Nghymru.