Achosion trawsrywedd mewn plant bron â dyblu mewn blwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Outside the Tavistock Centre Clinic
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 2,016 o bobl ifanc dan 18 oedd eu cyfeirio i ganolfan Tacistock yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 75 o'r rheiny o Gymru

Mae nifer y plant o Gymru sy'n cael eu cyfeirio i uned ar drawsrywedd wedi bron â dyblu mewn blwyddyn, yn ôl ffigyrau o glinic Tavistock y gwasanaeth iechyd yn Llundain.

Dyma'r unig glinig trwy Gymru a Lloegr sy'n cynnig cymorth a thriniaeth i blant.

Mae person trawsryweddol yn teimlo bod ei rywedd (gender) yn wahanol i'w ryw corfforol.

Ymhlith y rhai a gafodd eu cyfeirio i'r clinig y llynedd, roedd plentyn pum mlwydd oed.

Cafodd 75 o blant o dan 18 oed o Gymru eu cyfeirio i ganolfan Tavistock y llynedd - bron i ddwywaith cymaint â'r flwyddyn flaenorol.

Saith mlynedd yn ôl, un plentyn yn unig a gafodd ei gyfeirio yno drwy'r Gwasanaeth Iechyd.

Eisoes, mae rhai yn galw am sefydlu clinig yng Nghymru.

'Gwell ymwybyddiaeth'

Yn ôl arbenigwyr, gwell ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â hunaniaeth rhywedd sydd y tu ôl i'r cynnydd yng Nghymru.

Dywedodd y Dr Polly Carmichael o ganolfan Tavistock: "Does yna ddim un esboniad unigol dros y cynnydd yn yr achos sy'n cael eu cyfeirio atom ni, ond rydym yn gwybod, yn y blynyddoedd diwethaf, bod yna ddatblygiad sylweddol wedi bod wrth dderbyn a chydnabod yr amrywiaeth o bobl drawsryweddol sydd yn bodoli yn ein cymdeithas.

"Mae yna hefyd well gwybodaeth am glinigau arbenigol ar rywedd, a'r ffyrdd o'u cyrraedd, ac mae yna well ymwybyddiaeth o'r posibliadau yn ymwneud â thriniaeth i bobl ifanc.

"Dydy'r rhan fwyaf ddim yn cael triniaeth gorfforol drwy ein gwasanaeth ni, a rhaid caniatáu amser ac ystyriaeth cyn penderfynu ar driniaeth hormonol.

"Iechyd hirdymor a lles seicolegol a chymdeithasol pobl ifanc yw'n blaenoriaeth bob tro."