Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru i wynebu Awstralia a Georgia
- Cyhoeddwyd

Bydd Cymru yn gobeithio codi cwpan Webb Ellis ar ddiwedd y gystadleuaeth yn Japan
Mae'r enwau ar gyfer grwpiau Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Japan wedi eu tynnu o'r het.
Mae Cymru wedi'i gosod ym Mhŵl D gydag Awstralia a Georgia, ac yn debyg o chwarae Samoa neu Fiji fel un o dimoedd ynysoedd y de, a hefyd Canada neu UDA fel un o dimoedd yr Americas.
Llwyddodd Cymru i sicrhau ei lle ymhlith wyth uchaf rhestr detholion y byd ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Cafodd y gwledydd eu rhannu i bedwar grŵp o bump cyn y seremoni yn Kyoto, ac roedd Cymru yn yr ail haen o wledydd gyda'r Alban, De Affrica a Ffrainc.
'Bodlon'
Yn dilyn y seremoni dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ei fod yn eithaf hapus gyda'r canlyniad.
"Yn amlwg rydyn ni'n wynebu Awstralia eto a mwy na thebyg byddwn yn chwarae Fiji, felly mae yna ambell dîm yr un rhai ac yn 2015 [yng Nghwpan y Byd]," meddai.
"Rydyn ni'n fodlon gyda'r grŵp, mae gan bob grŵp dîm anodd ynddo ond o safbwynt Cymru, dwi'n hapus gyda'r canlyniad."
Bydd y gystadleuaeth ymlaen yn Japan o 20 Medi tan 2 Tachwedd 2019.

Mae Warren Gatland yn "fodlon" gyda grwp Cymru
Grwpiau Cwpan Rygbi'r Byd yn llawn:
Pŵl A:
Iwerddon, Yr Alban, Japan, Ewrop 1, Enillydd y gêm ail gyfle.
Pŵl B:
Seland Newydd, De Affrica, Yr Eidal, Affrica 1, Enillwyr y Repechage (system gymhwyso i dimoedd sydd heb gyrraedd safon cymhwyso'r gystadleuaeth).
Pŵl C:
Lloegr, Ffrainc, Ariannin, Americas 1, Tîm Ynysoedd y De 2.
Pŵl D:
Awstralia, Cymru, Georgia, Tîm Ynysoedd y De 1, Americas 2.