Camera cyflymder prysuraf Cymru: Cofnodi 8,400 o droseddau
- Cyhoeddwyd
Mae camera cyflymder mwyaf cynhyrchiol Cymru wedi cofnodi mwy na 8,400 o droseddau y llynedd - ac o bosib yn cynhyrchu £840,000 mae ffigyrau newydd wedi datgelu.
Y camera sydd wedi ei osod i gyfeiriad y de ar Heol y Gogledd yng Nghaerdydd oedd y prysuraf yng Nghymru yn 2016.
Fe gododd cyfanswm y troseddau gafodd eu cofnodi ar draws ardaloedd heddluoedd Cymru o 169,000 yn 2015 i 171,000 (cynnydd o 1.1%) y llynedd.
Mae'r BBC wedi gofyn i bartneriaeth diogelwch ar y ffyrdd Gan Bwyll am ymateb.
Dywedodd Steve Gooding, cyfarwyddwr sefydliad moduro'r RAC: "Rydym yn credu bod modd defnyddio'r camerâu cyflymder yn llwyddiannus i leihau cyfraddau damweiniau ac anafiadau, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd yn cefnogi eu defnydd.
"Fodd bynnag, rhaid pwysleisio mai pwrpas y camerâu ydi diogelwch, ac nid codi refeniw."
Y darlun o amgylch Cymru
Roedd camerâu cyflymder prysuraf Heddlu Gogledd Cymru ar ffordd ddeuol yr A483 ar gyffordd 7, Yr Orsedd, ger Wrecsam - lle cofnodwyd tua 4,500 o droseddau.
Cafodd tua 4,400 o droseddau eu cofnodi gan y camera cyflymder sydd rhwng cyffordd 23a a chyffordd 24 ar draffordd yr M4 tua'r gorllewin, ger Casnewydd - camera prysuraf Heddlu Gwent.
Roedd camera prysuraf Heddlu Dyfed-Powys ar ffordd yr A44 ym Mhonterwyd, yng Ngheredigion ac fe gofrestrwyd tua 650 o droseddau yn 2016.
Mae gyrwyr sy'n cael eu dal yn goryrru yn y DU, bellach yn wynebu isafswm dirwyon o £100 a thri phwynt cosb.
Os bydd yr holl droseddau a gofnodir ar draws Cymru yn 2016 yn cael eu cadarnhau, byddai cyfanswm y dirwyon werth o leiaf £17.1m.
Ym mis Ebrill, fe ddatgelwyd bod mwy na 13,000 o bobl wedi cael eu dal yn goryrru ar draffordd yr M4 o amgylch Casnewydd, a hynny ers i derfynau cyflymder gorfodol gael eu cyflwyno chwe mis ynghynt - sydd ar gyfartaledd yn 84 y dydd.
Fe gafodd y wybodaeth ei gasglu yn dilyn cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.