Miloedd o sglefrod môr ar draethau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
pysgod

Mae miloedd o sglefrod môr wedi eu darganfod ar draethau yn Sir Benfro, Ynys Môn a Cheredigion.

Mewn un rhan o Gymru yn unig, mae dros 300 o sglefrod môr wedi golchi i'r lan, a hynny yng Nghei Newydd, Ceredigion.

Dywedodd Sarah Perry o ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion: "Fel cadwraethwr dwi erioed wedi gweld gymaint a hyn o'r blaen.

"Mae hyn bendant yn haid enfawr."

Dywedodd bod y creaduriaid i'w gweld bob blwyddyn ond ychwanegodd bod hyn "yn anarferol oherwydd y nifer, a bod eu maint yn gymaint mwy".

Dywedodd fod y tywydd cynnes diweddar wedi sbarduno y ffyniant yn y slefrod môr, sy'n gallu tyfu hyd at 88cm (35in) mewn hyd.

Mae'r niferoedd wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod y gaeafau mwyn yn caniatáu i blancton, eu prif ffynhonnell fwyd, i ffynnu.