Elusen: Disgyblion byddar yn 'wynebu cael eu gadael ar ôl'
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion ysgol sy'n fyddar yng Nghymru yn tangyflawni ym mhob cyfnod allweddol ac wynebu cael eu gadael ar ôl os na fydd gweithredu brys, yn ôl elusen.
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y bwlch cyrhaeddiad yn fwy eto ar lefel TGAU.
Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru (CGPBC), mae angen mwy o gefnogaeth ac ymwybyddiaeth mewn ystafelloedd dosbarth.
Dywedodd y llywodraeth eu bod yn codi safonau addysgol ac yn buddsoddi ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgu ychwanegol.
Bwlch cyrhaeddiad
Mae cyrhaeddiad addysgol plant byddar yn ystod y tair blynedd diwethaf yn amrywio, yn ôl ffigyrau a ddaeth i law BBC Cymru.
Yn 2014, fe lwyddodd 48% o blant byddar gael gradd A* i C yn y pynciau craidd yng nghyfnod allweddol pedwar - Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth - o gymharu â 64% o ddisgyblion sy'n gallu clywed.
Y flwyddyn ganlynol roedd y bwlch cyrhaeddiad yn llai - ond tyfodd y llynedd eto gyda 48.5% o ddisgyblion byddar yn llwyddo i gael y graddau, o'i gymharu â 69.5% o blant sy'n gallu clywed.
Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer plant yn y cyfnod sylfaen a disgyblion cynradd rhwng saith ac 11 oed wedi aros yr un fath neu waethygu.
'Annerbyniol'
Daw'r newyddion wrth i sefydliadau ar draws DU nodi wythnos ymwybyddiaeth byddar sy'n cychwyn dydd Llun.
Bedair blynedd yn ôl, lansiodd CGPBC ddeiseb dan yr enw 'Cau'r Bwlch' yn dilyn cyfres o ganlyniadau gwael.
Dywedodd Debbie Thomas, swyddog polisi ac ymgyrchoedd i'r elusen, fod y canlyniadau diweddaraf yn "annerbyniol".
"Nid yw bod yn fyddar yn anabledd dysgu felly ni ddylai'r bwlch fod yno o gwbl, ac mae angen gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc sy'n fyddar yn derbyn y gefnogaeth briodol er mwyn iddyn nhw gyrraedd eu potensial yn llawn.
"Nid oes unrhyw reswm pam y dylen nhw fod yn tangyflawni, oni bai am y ffaith nad ydyn nhw'n cael mynediad i'r gefnogaeth briodol," meddai.
Dywedodd Ms Thomas y gallai camau ymarferol hefyd gael ei cymryd.
"Y peth mwyaf mae plant a phobl ifanc byddar yn ei ddweud dro ar ôl tro yw bod angen gwella'r awyrgylch sain mewn ystafelloedd dosbarth.
"Hefyd, bod angen sicrhau bod plant byddar a'u teuluoedd yn cael cefnogaeth o'r cychwyn a'r angen i godi ymwybyddiaeth." meddai.
'Disgyblion wrth wraidd y broses'
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r "nod cenedlaethol" oedd gwella cyrhaeddiad ar gyfer pob plentyn, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, drwy anelu i godi safonau drwy newidiadau amrywiol.
Ychwanegodd y bydd pecyn gwerth £20m o welliannau i gefnogi'r ymgais i gyflwyno'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, gafodd ei gyflwyno yn y Cynulliad ym mis Rhagfyr.
"Ein huchelgais, os caiff y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol ei basio yw ailstrwythuro'r system o gefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys disgyblion gyda thrafferthion clyw", meddai llefarydd.
"Bydd y bil yn rhoi'r disgyblion wrth wraidd y broses a bydd yn gwneud y system yn haws i bawb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2013