'Dim effaith ar Gymru' yn dilyn ymosodiad seibr

  • Cyhoeddwyd
SeibrFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod data cleifion yng Nghymru yn parhau'n ddiogel yn dilyn yr ymosodiad seibr darodd gyrff iechyd yn Lloegr a'r Alban.

Does dim systemau technoleg gwybodaeth wedi'u heffeithio yng ngwasanaeth iechyd Cymru, ond mae chwech o gyfrifiaduron wedi gweld "gweithred amheus".

Dywedodd y llywodraeth bod systemau'r GIG wedi atal y firws rhag gweithio ac na lwyddodd i ledaenu o'r chwe chyfrifiadur gafodd eu heffeithio.

Mae 47 o gyrff y GIG yn Lloegr ac 13 yn Yr Alban wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiad seibr, sydd wedi taro 150 o wledydd ers dydd Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r neges oedd yn ymddangos yn dilyn yr ymosodiad seibr yn Lloegr a'r Alban

Fe wnaeth GIG Cymru gyhoeddi dros y penwythnos bod pob e-bost allanol sy'n cael eu gyrru i'r sefydliad wedi'u rhwystro a'u dileu.

Mae cyfyngiadau ar ddefnydd staff o e-byst allanol fel Gmail a Hotmail hefyd, ac mae bellach wedi cael ei ymestyn am 24 awr arall rhag ofn.

Ond mae staff yn gallu gyrru e-byst mewnol i'w gilydd o fewn systemau GIG Cymru, ac yn gallu gyrru e-byst allanol.

Bu arbenigwyr technoleg gwybodaeth yn gweithio trwy'r penwythnos i amddiffyn systemau byrddau iechyd.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi i wella diogelwch eu system dechnoleg gwybodaeth yn ddiweddar.

'Gweithio drwy'r penwythnos'

Dywedodd Dr Fiona Jenkins, cyfarwyddwr gweithredol TG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, nad oedd unrhyw effaith wedi bod i'w gwasanaethau cleifion na data.

"Mae diolch mawr i'n staff TG ni sydd wedi gweithio ddydd a nos drwy'r penwythnos ers mwyn sicrhau fod gan ein systemau y warchodaeth orau bosib yn erbyn yr ymosodiadau disynnwyr yma," meddai.

Ychwanegodd Steve Moore, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod staff wedi bod yn gweithio drwy'r penwythnos i gryfhau'r systemau cyfrifiadurol.

"Er nad ydyn ni wedi cael ein heffeithio rydyn ni'n cymryd camau ychwanegol i ddiogelu ein cleifion, gan gynnwys cau lawr ein systemau e-bost nes ein bod hi'n hyderus nad oes risg pellach," meddai.