Gwleidyddion yn fwy ymwybodol o heriau'r byd amaeth

  • Cyhoeddwyd
Giat

Mae Brexit wedi arwain at fwy o ymwybyddiaeth ymysg gwleidyddion ynglŷn â'r heriau sy'n wynebu byd amaeth, yn ôl arweinwyr undeb yng Nghymru.

Gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ac NFU Cymru yn galw ar y pleidiau i egluro sut y bydden nhw'n helpu'r diwydiant.

Amaeth yw un o'r sectorau fydd yn cael eu heffeithio fwya' gan ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl arweinwyr ffermio mae gwleidyddion bellach yn gorfod wynebu cwestiynau dyrys ynglŷn â'r ffordd y bydd y diwydiant yn cael ei ariannu yn y dyfodol.

Yr Undebau

"Dwi'n teimlo ym mer fy esgyrn bod gan y gwleidyddion fwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amaeth - dwi wirioneddol yn," meddai Glyn Roberts, Llywydd UAC.

"Hwyrach eu bo nhw'n sylweddoli faint mor bwysig oedd y cyllid amaethyddol, nid dim ond i ffermwyr ond i gefn gwlad Cymru hefyd."

"Dydy llawer o amaethwyr ddim yn gyfoethog yn faterol ond ein gwir olud ydy ein hetifeddiaeth a harddwch ein hardal ni," ychwanegodd Mr Roberts.

"A 'da chi'n mynd i golli hynna i gyd os da chi'n mynd i dynnu'r pres oddi ar amaethyddiaeth."

Ond mae dyfodol cymorthdaliadau amaeth yn destun dadlau, gyda rhai'n mynnu y dylai unrhyw fuddsoddiad yn y dyfodol gael ei dargedu'n well.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r undebau yn pwysleisio bod yn rhaid i wleidyddion gofio am lais ffermwyr o Gymru

Bydd hyn yn rhan o'r drafodaeth ynglŷn â fframwaith Prydeinig newydd ar gyfer gwariant a pholisi amaethyddol ar ôl Brexit, gyda'r bwriad o leihau unrhyw gystadleuaeth annheg rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r undeb yn poeni y bydd "system sydd wedi'i selio ar y ffordd o ffermio yn Lloegr" yn cael ei osod gan San Steffan, ac maen nhw eisiau gweld llywodraeth nesa'r DU yn gweithio'n agos gyda'r llywodraethau datganoledig.

"Mae angen i bedwar person, pedwar gwlad fod o amgylch y bwrdd," mynnodd Mr Roberts.

"Ein gofyn mwya' i'r llywodraeth nesa yw iddyn nhw gydnabod a gwerthfawrogi pa mor bwysig ac unigryw yw'r fferm Gymreig deuluol, a'u bod nhw'n parchu datganoli wrth gynllunio dyfodol byd amaeth," meddai Rheolwr Gyfarwyddwr UAC, Alun Davies.

"Mae'n ffordd unigryw o fyw a ry'n ni angen cadw hynny. Ac mae'n hollol wahanol i Loegr."

Ffeithiau amaeth

  • 80% o dirwedd Cymru yn nwylo ffermwyr, a'r rheini gan amlaf yn fusnesau bychain, teuluol.

  • Rhan fwyaf yn gweithredu ar dir "llai ffafriol", lle mae'n anodd neu'n amhosib tyfu cnydau, felly mae'r ffocws ar wyn, cig eidion a chynnyrch llaeth.

  • Mae ffermydd Cymru yn ddibynnol ar daliadau'r Undeb Ewropeaidd, sy'n cyfri am 80% o'u hincwm ar gyfartaledd yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru

  • Astudiaethau yn awgrymu bod ffermwyr yn gwario'r rhan fwyaf o'r arian y maen nhw'n ei dderbyn yn eu hardal leol, gan helpu cynnal cymunedau gwledig.

Safbwynt ffermwyr

Mae Edwin Roderick a Gethin Havard yn gymdogion o fath - yn ffermio rhai milltiroedd o'i gilydd yn ardal Pontsenni, Powys.

Ond mae ganddyn nhw farn wahanol iawn ynglŷn â Brexit.

Pleidleisiodd Mr Roderick dros aros yn rhan o'r UE, ond mae'n dweud iddo glywed llawer mwy o sôn gan wleidyddion ynglŷn â byd amaeth ers y refferendwm ac mae hynny'n "beth da".

Disgrifiad,

Mae Edwin Roderick yn pryderu am ddyfodol ffermio yn yr ardal leol

"Cyn hynny o'dd e'n air brwnt, ond ers Brexit na'r cyfan y'n ni'n clywed yw agriculture, agriculture, agriculture. Achos maen nhw'n gallu gweld y galle pethe fod yn danjeris."

"Dwi'n gobeithio bydd popeth yn iawn ond dwi'n poeni, dwi wir yn."

Disgrifiad,

Yn ôl Gethin Havard mae angen i'r gwleidyddion ganolbwyntio fwy ar amaeth

Pleidleisiodd Mr Havard i adael, "heb unrhyw oedi" am ei fod eisiau gweld gwleidyddion y DU yn cael mwy o ddylanwad dros ddyfodol ffermio.

"O'n i'n teimlo bod yr arian oedd yn mynd i amaeth ddim yn cael ei dargedu'n iawn a hefyd nad oedd ein gwleidyddion ni yn cymryd fawr o ddiddordeb yn ein diwydiant ni am eu bod nhw'n credu bod Ewrop yn delio a'r peth."

Beth mae'r pleidiau yn ei ddweud?

Llafur

"Mae Llafur Cymru yn cydnabod yn llwyr yr heriau i ffermwyr a'r economi wledig ehangach yn sgil trafodaethau diofal Theresa May ynglŷn â Brexit. Dyna pam wnaethon ni bwysleisio'r angen am fynediad rhydd i'r Farchnad Sengl yn adroddiad Llywodraeth Cymru 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Rydyn ni yn credu y gallwn ni amddiffyn y diwydiant trwy osod y safonau uchaf ar gyfer ansawdd bwyd a llesiant. Ni allith Brexit fod yn esgus i danseilio ein ffermwyr ac mae'n rhaid i ni atal y gadwyn fwyd rhag cael ei llenwi gan gynnyrch rhad gwaelach."

Democratiaid Rhyddfryfol

"Mae ffermio a busnesau amaethyddol yn rhan allweddol o economi Cymru ac mae cynlluniau'r Ceidwadwyr i'w tynnu nhw allan o'r farchnad sengl yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa beryglus iawn. O'r tollau mawr ar gynnyrch amaethyddol i'r golled mewn nawdd uniongyrchol i ffermwyr Cymru, mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod ffermio ac amaeth yn cael ei amddiffyn yn y blynyddoedd nesaf. Dyna pam mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn galw ar y llywodraeth i beidio gwario'r un geiniog yn llai ar ffermio unwaith y bydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni hefyd yn galw ar y DU i barhau i fod yn aelod o'r farchnad sengl gan alluogi Cymru i barhau i allforio cynnyrch o safon byd eang heb dollau anferthol neu fiwrocratiaeth ormodol fydd yn eu gyrru nhw allan o'r farchnad."

UKIP

"Dylai ffermwyr Cymru gael ymreolaeth well trwy fabwysiadau mesurau sydd yn cymryd lle rheolau llesteiriol yr UE. Yn lle hynny mae angen datrysiadau gwirfoddol i'r problemau sydd yn ein hwynebu. Yn ogystal, dylai ffermwyr sydd wedi buddsoddi mewn arferion da o ran rheoli eu tiroedd gael cymorth a chydnabyddiaeth am eu cyfraniad i'r amgylchedd ehangach."

Plaid Cymru

"Bydd ASau Plaid Cymru yn gweithredu bob amser fel ffrindiau ac yn bleidiol i ffermwyr Cymru, cynnyrch o Gymru a'r ffordd wledig o fyw. Mae ffermio a chefn gwlad yn holl bwysig ar gyfer ein gweledigaeth o Gymru. Ein hagwedd ni yw y dylai Cymru dderbyn yr un lefel o gefnogaeth amaethyddol wrth i Gymru a'r DU adael yr UE a bod y gefnogaeth yma yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer ffermwyr mynydd a'r sectorau llaeth. Bydd ASau Plaid Cymru yn pwyso i gael gwarant cynnar gan Lywodraeth y DU y bydd y gefnogaeth allweddol yma yn parhau. Byddwn hefyd yn parhau i hybu cynnyrch Cymreig ac allforion bwyd gan adeiladu ar y gwaith gwych sydd wedi ei wneud gan gynhyrchwyr i greu brand cenedlaethol premiwm. Ar yr un pryd, fyddwn ni ddim yn cefnogi mewnforion amaethyddol rhad yn y farchnad yng Nghymru a'r DU."

Ceidwadwyr

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae hyn yn gyfle enfawr i amaethyddiaeth ym Mhrydain ac fe fydd llais ffermwyr Cymru i'w glywed yn uchel ac yn glir yn ystod y trafodaethau. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni sicrhau na fydd ffermwyr Cymru ar eu colled wedi Brexit ond does gen i ddim amheuaeth y bydd arweinyddiaeth gref a chyson Theresa May fel Prif Weinidog yn golygu'r canlyniadau gorau i Gymru. Byddai'r dewis arall yn drychinebus i amaethyddiaeth Cymru ac yn rhoi llwyfan i asgell Ian Lucas o'r blaid Lafur yng Nghymru i lobio er mwyn cael toriadau sylweddol i gymorthdaliadau ffermio."

Y Blaid Werdd

"Mae yna angen am strategaeth amaethyddol hir dymor, cydlynol i Gymru wedi Brexit fydd yn cefnogi ffermwyr, tyfwyr a'n cymunedau gwledig. Mae amddiffyn bywyd gwyllt, adfer bioamrywiaeth, datblygu amddiffynfeydd llifogydd a gwella ein tir hefyd angen bod yn ganolog. 'Dyw agwedd 'un cynllun i bawb' ar gyfer amaethyddiaeth ddim yn mynd i weithio. Mae angen i Lywodraeth y DU warantu cefnogaeth i'n ffermwyr wedi 2020 neu fe fydd nifer o ffermydd yn dod i ben a chymunedau gwledig yn cael eu difetha."