'Y GIG mewn sefyllfa gref i wrthsefyll ymosodiad seibr'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach i wrthsefyll ymosodiad seibr am eu bod wedi paratoi yn drylwyr, meddai cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Dyma'r corff sy'n cydlynu systemau cyfrifiadurol ar draws byrddau iechyd Cymru.
Mae Andrew Griffiths hefyd yn honni bod buddsoddi diweddar mewn systemau cyfrifiadurol yn golygu bod llai o wendidau yn bodoli.
Fe achosodd yr ymosodiad seibr, a ledaenodd ar draws y byd, broblemau i'r gwasanaethau iechyd yn yr Alban a Lloegr.
Ond mae Mr Griffiths yn rhybuddio na ddylai'r gawsanaeth yng Nghymru fod yn hunanfodlon.
Parhau i fuddsoddi
Dywedodd bod yn rhaid i'r gwasanaeth yma fod yn wyliadwrus a pharhau i fuddsoddi mewn diogelwch seibr.
"Doedden ni ddim yn lwcus. Roedden ni wedi paratoi... ac fe olygodd y gwaith paratoi yna ein bod ni mewn lle da," meddai.
"Does dim un system yn 100% sicr ond mi oedd gennym ni'r prosesau a'r bobl yn eu lle i wneud yn siŵr bod dim modd i'r ymosodiad effeithio arnom ni."
Ychwanegodd bod yna rwydwaith gyffredin ar draws Cymru a bod hyn hefyd wedi helpu a bod gweithwyr wedi gweithio'n galed i daclo'r bygythiad.
Sut effeithiodd yr ymosodiad ar Gymru?
Cafodd y gwasanaeth gwybodeg wybod am yr ymosodiad seibr ddydd Gwener. Fe weithiodd cannoedd o bobl i daclo'r bygythiad rownd y cloc.
6 o'r 55,000 o gyfrifiaduron gafodd y feirws yn y GIG yng Nghymru ond cafodd y feirws ei ddinistrio cyn cael unrhyw effaith. Y gred yw bod y rhain ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf.
Cafodd tua 40 o gleifion canser wybod bod eu hapwyntiadau am sgan wedi eu gohirio am ddiwrnod er mwyn gwneud gwaith i uwchraddio'r feddalwedd sydd ynghlwm â'r sganiwr.
Mae negeseuon e-bost i'r GIG yn parhau i gael eu hatal ond mae'r sefyllfa yn cael ei hadolygu'n gyson.