Ian Brady a'r plismon o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Evan John Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Bu Mr Hughes yn ymchwilio i'r llofruddiaethau ac yn cydlynu gyda theulu un o'r plant, Edward Evans

Mae'r llofrudd plant Ian Brady wedi marw yn 79 oed.

Roedd e a'i gariad, Myra Hindley yn gyfrifol am farwolaethau pump o blant yn y 60au.

Cafodd ei garcharu yn 1966, ar ôl ei arestio yn Hydref 1965.

Disgrifiad,

Y cyn blismon Evan John Hughes yn cofio arestio'r llofrudd Ian Brady.

Ditectif gwnstabl ifanc o Ben Llŷn, oedd yn gweithio yn Sir Caer ar y pryd, gafodd y dasg o warchod y llofrudd yn swyddfa'r Heddlu yn Hyde.

Erbyn hyn mae Evan John Hughes yn ei 80au, ac ar y Post Cyntaf bu'n sôn am ddigwyddiadau'r bore hwnnw dros hanner canrif 'nôl wrth ohebydd BBC Cymru Alun Rhys.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Ian Brady yn 1965