Gwrthod talu trwydded deledu dros bwerau darlledu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Heledd Gwyndaf ei bod hi'n "gyfrifoldeb" protestio dros ddatganoli darlledu

Mae dros 50 o ymgyrchwyr iaith yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu nes bod pwerau dros ddarlledu yn cael eu datganoli.

Aelodau Cymdeithas yr Iaith sy'n gweithredu, gan gynnwys cadeirydd y mudiad, Heledd Gwyndaf.

Dywedodd ei bod yn barod i fynd i'r carchar cyn talu costau'r drwydded, tra bod hawliau darlledu yn aros gyda Llywodraeth y DU.

Mae Trwyddedu Teledu (TV Licensing) yn dweud bod yr ymgyrchwyr yn wynebu cael eu herlyn, a dirwy o hyd at £1,000.

Nid oedd adran diwylliant Llywodraeth y DU am wneud sylw.

Dywedodd Heledd Gwyndaf nad oedd penderfyniad aelodau i beidio â thalu wedi bod yn hawdd: "Dim ar chwarae bach 'y chi'n penderfynu torri'r gyfraith fel hyn, gan wynebu yn sicr y bailiffs yn dod, rhybuddion am hynny, a falle achosion llys," meddai.

"Pwy a ŵyr beth ddaw yn y pen draw?

"Mae'r ffaith bod 50 wedi meddwl am hyn yn ddwys, ac wedi penderfynu neud e, yn dangos pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa.

"Ond wrth gwrs ry ni'n gobeithio cael mwy o bobl i ymuno yn yr ymgyrch er mwyn cael y maen hyn i'r wal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Davies am i ddarlledwyr fod yn fwy atebol i'r Cynulliad

Nid yw'r gweinidog gyda chyfrifoldeb dros ddarlledu yn y llywodraeth Lafur yng Nghymru, Alun Davies, yn cefnogi datganoli darlledu, ond mae'n gobeithio cynyddu'r atebolrwydd.

Dywedodd: "'Da ni'n edrych ar yr holl gwestiwn o atebolrwydd darlledwyr ar hyn o bryd, sy'n gwestiwn tipyn bach mwy cymhleth ond fwy pwysig.

"Ar hyn o bryd does dim galw cyffredinol i ddatganoli darlledu. Dydyn ni ddim yn gweld cynnydd ar draws Cymru o bobl sy'n cefnogi'r alwad yna.

"Ond mae yn bwysig bod darlledwyr yn atebol i bobl Cymru, ac yn atebol mewn ffordd dydyn nhw ddim ar hyn o bryd.

"Felly rydw i wedi bod yn gweithio gyda'r darlledwyr, a gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i ystyried sut ydyn ni yn sicrhau bod y BBC, ITV, Channel 4 ac S4C yn fwy atebol i'r Cynulliad, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond y Cynulliad ac efallai i senedd Prydain."

Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi datganoli darlledu.

Mae'r Ceidwadwyr yn ffafrio rhannu atebolrwydd ond nid datganoli, tra bod UKIP yn gwrthod unrhyw ddatganoli o'r pwerau dros ddarlledu.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Trwyddedu Teledu fod y sawl sy'n gwrthod talu yn wynebu dirwy o hyd at £1,000

Yn ôl yr ymgyrchwyr, fe fydd datganoli darlledu yn gwella'r arlwy o raglenni a gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg, ac yn golygu y gall rheoleiddiwr Cymreig newydd gael ei sefydlu i orfodi darlledwyr i gynyddu'r nifer o raglenni Cymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd am ailddosbarthu arian ffi'r drwydded yng Nghymru er mwyn sefydlu sianeli newydd, tra bod y mudiad am roi ardoll ar gwmnïau cyfryngau ar-lein er mwyn ariannu mwy o wasanaethau darlledu Gymreig.

Mewn datganiad dywedodd Trwyddedu Teledu: "Beth bynnag ydy barn bersonol rhywun, mae'n rhaid cael trwydded deledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu darlledu, neu i wylio rhaglenni'r BBC ar yr iPlayer.

"Mae unrhyw un sy'n gwylio'r teledu heb drwydded ddilys yn wynebu erlyniad a dirwy o hyd at £1,000."