Chwaraeon Cymru: 'Tystiolaeth o fwlio' medd adolygiad
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad mewnol gan Lywodraeth Cymru i waith Chwaraeon Cymru wedi canfod tystiolaeth o fwlio, bygythiadau ac iaith amhriodol.
Cafodd cadeirydd y corff, Paul Thomas a'r is-gadeirydd Adele Baumgardt eu diswyddo gan weinidogion ym mis Mawrth.
Dywedodd Mr Thomas nad oedd yr honiadau'n wir, ond dywedodd Ms Baumgardt nad oedd hi wedi'i synnu gyda'r canfyddiadau, a'i bod hi wedi ymddwyn yn iawn.
Chafodd yr un unigolyn eu hadnabod fel ffynhonnell y bwlio honedig.
Adolygiad
Cafodd Chwaraeon Cymru, neu Cyngor Chwaraeon Cymru gynt, ei sefydlu yn 1972 er mwyn hybu chwaraeon elît ac ar lawr gwlad, ac mae ganddynt gyllideb flynyddol o £22m.
Ers hydref y llynedd mae sawl ffrae wedi bod ynglŷn â'r ffordd mae'r bwrdd yn gweithredu.
Mae fersiwn wedi'i olygu o adolygiad Llywodraeth Cymru, gafodd ei orchymyn gan y gweinidog chwaraeon Rebecca Evans cyn i uwch-swyddogion y sefydliad gael eu diswyddo, nawr wedi'i ryddhau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Cafodd yr adolygiad ei chwblhau fis ynghynt, ond doedd heb gael ei ryddhau yn gyhoeddus.
Roedd yn dweud nad oedd tystiolaeth o wrthdaro buddiannau gydag unrhyw aelodau o fwrdd Chwaraeon Cymru, a bod honiadau fod polisïau caffael heb gael eu dilyn "ddim yn arwyddocaol".
Cafodd y pryderon hynny eu codi gan archwiliad o gyfrifon Chwaraeon Cymru gan gwmni Deloitte, gafodd ei weld gan BBC Cymru ym mis Mawrth, oedd yn dweud y gallai'r corff fod yn peryglu'i henw da yn y ffordd roedden nhw'n dyfarnu cytundebau.
Ond yn ôl adolygiad Llywodraeth Cymru roedd "pryderon am fwlio cymdeithasol".
Ychwanegodd yr adolygiad: "Er enghraifft, esiamplau o gau allan yn fwriadol gan achosi i unigolion deimlo na allen nhw wneud eu gwaith yn effeithiol; e-byst bygythiol yn ymateb i gwestiynau neu heriau honedig; trafod materion cyfrinachol ac weithiau di-sail gyda thrydydd parti; iaith; ac iaith gorfforol ac ymddygiad roedd pobl gafodd eu cyfweld yn teimlo oedd yn anaddas.
"Yn ystod sgyrsiau gyda phobl gafodd eu cyfweld, fe wnaeth y tîm adolygu ganfod tystiolaeth oedd yn cefnogi'r pryderon hyn."
Cofnodion
Mae cofnodion bwrdd Chwaraeon Cymru, gafodd eu cyhoeddi yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru, hefyd yn datgelu honiadau o "ymddygiad dialgar" o fewn y corff.
Roedd munudau'r cyfarfod ar 22 Tachwedd, ble bu pleidlais diffyg hyder unfrydol yn y cadeirydd, yn dweud bod Ms Baumgardt "wedi nodi fod pob aelod o'r bwrdd wedi dod ati i drafod cynnig diffyg hyder yn y cadeirydd oherwydd methiannau difrifol yn ei arweinyddiaeth a llywodraethiant".
"Esboniodd yr is-gadeirydd, oherwydd ymddygiad dialgar yn y gorffennol, fod aelodau'r bwrdd yn bryderus am y goblygiadau i unigolion," meddai'r ddogfen.
Nid y cynnig yma "oedd y cyfathrebiad ffurfiol cyntaf o'r bwrdd i'r cadeirydd yn ymwneud a'r ffordd roedd wedi bod yn gweithredu ei ddyletswyddau", ychwanegodd y munudau.
Dywedodd Adele Baumgardt fod ei hymddygiad hi wedi bod yn broffesiynol a chywir.
Ychwanegodd nad oedd hi "wedi synnu" gyda chanfyddiadau'r adolygiad: "Dwi'n falch fod y ffeithiau yma'n gyhoeddus bellach.
Mae Ms Baumgardt wedi cyhuddo Mr Thomas yn y gorffennol o beidio bod yn gymwys i fod mewn swydd gyhoeddus uchel, honiad y mae e wedi'i wrthod.
Ers cael ei ddiswyddo mae Mr Thomas wedi dweud ei fod wedi ei gosbi am fod iddo chwythu'r chwiban.
Fodd bynnag, roedd llythyr gafodd ei ysgrifennu gan y Prif Weinidog Carwyn Jones i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ynglŷn â honiadau gafodd eu gwneud gan Mr Thomas, yn dweud fod y cadeirydd dros dro Lawrence Conway wedi canfod fod y corff "wedi'i reoli'n dda" a'i "rhedeg yn dda".
'Gweledigaeth wan'
Dywedodd Mr Thomas wrth BBC Cymru fod yr honiadau yn yr adolygiad hyder "ddim yn wir".
"Dwi wedi synnu'n llwyr gyda rhai o'r pethau maen nhw wedi dod allan efo," meddai. "mae o mor anwir, mae'n ddychmygol. Mae'n reit ddoniol a dweud y gwir."
Honnodd ei fod wedi ei "drefnu", er mwyn i adolygiad roedd e wedi'i gomisiynu i'r corff "yn cael ei gladdu".
Roedd fersiwn drafft o adroddiad Mr Thomas, gafodd ei weld gan y BBC llynedd, wedi rhybuddio fod angen trawsnewid Chwaraeon Cymru.
Cafodd y corff ei gyhuddo o fod yn "hynafol yn ei ffordd o feddwl" a "gwan yn ei gweledigaeth".
Dywedodd Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am wneud sylw.