50 safle yng Nghymru yn ennill statws Baner Las
- Cyhoeddwyd
Mae'r nifer uchaf erioed o safleoedd yng Nghymru wedi ennill statws Baner Las, yn cynnwys 45 o draethau, tri marina a dau gwmni teithiau cychod.
Mae cyfanswm o 98 safle wedi cyrraedd safonau Baner Las, Arfordir Gwyrdd a Gwobr Glan Môr.
Mae'r safleoedd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Arfordir Cymru.
Blue Ocean Adventures yn Nhyddewi a Ribride ym Mhorthaethwy yw'r cwmnïau teithiau cychod cyntaf yn y DU i ennill statws Baner Las.
Eleni yw'r 30ain flwyddyn i'r Faner Las gael ei chyflwyno, ac i'w hennill mae'n rhaid sicrhau safon ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth amgylcheddol, rheolaeth a gwasanaethau.
'Effaith gadarnhaol ar dwristiaeth'
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rydym i gyd yn gwybod bod arfordir Cymru gyda'r mwyaf trawiadol yn y byd.
"Mae'r ffaith fod 50 o safleoedd bellach yn hedfan y Faner Las a bod 98 o safleoedd i gyd wedi cael eu cydnabod am ansawdd eu dŵr a'u cyfleusterau yn newyddion rhagorol.
"Gall hyn ond cael effaith gadarnhaol ar dwristiaeth ac, yn ei dro, rhoi hwb i'r economi."