Angen pennu dyddiad i Gymru fod yn rydd o'r TB

  • Cyhoeddwyd
moch daearFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yna rhaglen swyddogol o ddifa moch daear

Mae angen pennu dyddiad ar gyfer pryd y bydd Cymru yn wlad gwbl rydd o'r afiechyd TB medd un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Yn yr adroddiad mae'r pwyllgor yn nodi nad oes amserlen genedlaethol wedi ei osod ar gyfer cael gwared a'r afiechyd yng Nghymru yn wahanol i Loegr, Iwerddon a Seland Newydd.

Ond bydd angen monitro rhaglen y llywodraeth meddai'r ddogfen ac os nad yw'n gweithio byddai angen ei newid neu ei stopio.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd gweinidogion yn astudio'r argymhellion ac yn gwneud datganiad ar y mater cyn y gwyliau haf.

Ym mis Hydref y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried caniatáu dal moch daear mewn cewyll ac yna'u difa ar ffermydd lle roedd na broblem hir-dymor gyda'r diciâu a lle roedd mesurau eraill wedi methu.

Atal lledaenu'r afiechyd

Ond fyddai na ddim rhaglen swyddogol o ddifa moch daear, fel sy'n digwydd mewn rhannau o Loegr.

Mae'r Llywodraeth wedi bod yn ymgynghori ar y cynlluniau ac mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi eu mesurau terfynol ym mis Mehefin.

Fe gyhoeddodd y llywodraeth hefyd y byddai ardaloedd TB Isel, Canolig ac Uchel hefyd yn cael eu sefydlu ar draws Cymru yn dibynnu ar ba mor gyffredin yw'r afiechyd er mwyn ceisio atal yr afiechyd rhag lledaenu.

Mae hyn yn rhywbeth sydd yn cael ei gymeradwyo gan y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Disgrifiad o’r llun,

Fel rhan o'i hymchwiliad roedd y pwyllgor yn edrych ar y dystiolaeth mewn gwledydd eraill fel Iwerddon a Seland Newydd

Fe aeth yr Aelodau Cynulliad ati i gynnal ymchwiliad yn edrych ar TB ac yn benodol y dystiolaeth wyddonol, y dulliau sydd wedi eu defnyddio yn y gorffennol i geisio dileu'r afiechyd a chyfeiriad y llywodraeth i'r dyfodol.

Roedd y pwyllgor hefyd yn edrych ar y dystiolaeth mewn gwledydd eraill.

Roedd y mater iawndal yn un pwnc wnaeth godi yn ystod yr ymchwiliad.

Yn ôl yr adroddiad mae bron £150 miliwn wedi ei dalu i ffermwyr yn y 10 mlynedd ddiwethaf sydd wedi lladd eu hanifeiliaid trwy'r rhaglen i ddileu TB.

Iawndal i ffermwyr

Ond mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gostwng y swm uchaf maent yn talu o £15,000 i £5,000 ac un rheswm am hyn yw'r cyllid Ewropeaidd maent yn disgwyl ei golli pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed yr adroddiad bod hi'n "bwysig bod y Llywodraeth yn talu iawndal digonol i ffermwyr".

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor,yr Aelod Cynulliad Jenny Rathbone: "Rydym am weld Cymru'n cael ei datgan yn wlad sy'n rhydd o TB cyn gynted ag y bo modd, ond yn cydnabod bod lefel y cydweithrediad sydd ei angen i gyrraedd yno yn sylweddol.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

"Daethom i'r casgliad bod angen strategaeth ar ei newydd wedd sy'n cynnwys dull rhanbarthol at ddileu TB, cyfyngiadau o ran symud ar fuchesi sydd wedi'u heintio a masnachu yn seiliedig ar risg ymhlith opsiynau eraill.

"Mae angen hefyd i gadw llygad barcud ar reoli buchesi godro mwy o faint ac unrhyw gyswllt gyda'r slyri a gynhyrchir ganddynt."

12 argymhelliad sydd yn yr adroddiad sydd yn cynnwys:

  • bod y llywodraeth yn gwneud gwaith ymchwil i weld os oes yna risg lledaenu'r afiechyd gan fuchesi godro mwy o faint ac arferion rheoli slyri

  • gwneud yn siŵr bod yr arian sydd yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer profion TB yn rhan o gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol

  • adolygu yn gyson y rhaglen i atal TB gan y llywodraeth gan edrych ar y dystiolaeth wyddonol.