Ymateb gwleidyddion i ymosodiad 'arswydus' Manceinion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Prif Weinidog Cymru yn rhoi teyrnged wedi'r ymosodiad ym Manceinion

Mae'r pleidiau gwleidyddol wedi gohirio'r ymgyrchu ar gyfer yr rtholiad cyffredinol yn dilyn yr ymosodiad yn Arena Manceinion nos Lun.

Bu farw 22 o bobl a phlant ac fe gafodd 59 eu hanafu yn y ffrwydrad ar ddiwedd cyngerdd y gantores Americanaidd Ariana Grande.

Yn dilyn yr ymosodiad mae gwleidyddion o bobl plaid ac arweinwyr ffydd wedi bod yn ymateb i'r gyflafan.

Cafywd cyfnod o dawelwch yn ystod cyfarfod llawn y Cynulliad ym mae Caerdydd, ac fe wnaeth y Llywydd Elin Jones a'r Prif Weinidog Carwyn Jones wneud datganiadau.

'Cryfder y ddinas'

Dywedodd Carwyn Jones: "Mae Manceinion yn adnabyddus ac yn lle y mae llawer o Gymru'n ei garu, yn enwedig i'r rhai sy'n byw yn y gogledd.

"Mae wedi gweld terfysgaeth ofnadwy yn y gorffenol, a does gen i ddim amheuaeth am wytnwch a chryfder y ddinas wych yma.

"Rwy'n rhoi teyrnged i'r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y Gwasanaeth Iechyd ym Manceinion ac i'r holl bobl eraill yn y ddinas sydd wedi agor eu drysau a chynnig llaw o gymorth pan roedd angen cymorth."

Ffynhonnell y llun, Twitter

Ychwanegodd: "Yn barod rydym wedi clywed am nifer fawr o straeon o ddewrder, haelioni ac undod sydd yn dangos tu hwnt i unrhyw amheuaeth na fydd pobl Manceinion a'r wlad hon yn plygu i derfysgaeth.

"Bydd y gobaith yna, a'r undod o hyd yn curo casineb, a'r rhai sy'n ceisio ein gwahanu."

Dywedodd ei fod wedi derbyn gwybodaeth gan Swyddfa'r Cabinet ac fe fydd yr awdurdodau'n cadw llygad barcud ar ddigwyddiadau wrth iddyn nhw ddatblygu.

Y flaenoriaeth ar hyn o bryd oedd rhoi'r gefnogaeth briodol i'r teuluoedd oedd wedi eu heffeithio, meddai.

'Arwyr'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ar Twitter bod ei "meddyliau gyda phawb sydd ynghlwm â'r digwyddiad ym Manceinion" ac mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi dweud bod hyn yn "weithred lwfr".

Ychwanegodd: "Mae ein gwerthfawrogiad i'r gwasanaethau brys oedd ar y safle...nhw yw arwyr yr awr."

Dywedodd Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Deffro i newyddion ofnadwy ynglŷn â Manceinion. Dinas hyfryd, pobl gynnes sydd wedi dioddef ymosodiad ofnadwy."

Fe ddywedodd Neil Hamilton, arweinydd UKIP yn y Cynulliad: "Mae fy meddyliau a fy ngweddïau gyda ffrindiau a theuluoedd y rhai sydd wedi marw neu wedi eu hanafu ym Manceinion. Newyddion ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Bu Theresa May'n siarad yn dilyn cadeirio cyfarfod Cobra fore dydd Mawrth

Yn dilyn cadeirio cyfarfod o bwyllgor brys Cobra fore dydd Mawrth, dywedodd Theresa May mai hwn oedd yr ymosodiad gwaethaf i daro gogledd Lloegr erioed.

Yn siarad y tu allan i Downing Street, fe fynegodd ei sioc, gan ddweud ei fod yn anodd deall pa fath o berson fyddai'n dewis ymosod ar neuadd lawn o bobl ifanc a phlant.

Disgrifiodd yr ymosodiad fel un o "lwfrdra anhygoel".

Yn ôl y Prif Weinidog dim ond un dyn oedd yn gyfrifol ac fe gafodd ei ladd yn yr ymosodiad.

Asesu'r sefyllfa

"Mae'r gwasanaethau diogelwch yn credu eu bod nhw'n gwybod pwy oedd o, beth maen nhw'n ceisio ei ganfod nawr yw oedd o'n gweithio ar ei ben ei hun, neu oedd o'n rhan o grŵp ehangach."

Dyw'r llywodraeth ddim yn bwriadu cynyddu lefel y bygythiad i'r lefel uchaf posib - mae'n parhau ar ddifrifol - sef bod ymosodiad yn hynod debyg.

Ond fe fydden nhw'n parhau i'w asesu'r sefyllfa.

Fe fydd yna gyfarfod arall o bwyllgor Cobra yn ddiweddarach heddiw ac fe fydd Theresa may yn teithio i Fanceinion yn ystod y dydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un arall i roi teyrnged yn dilyn yr ymosodiad oedd Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John.

Mewn datganiad dywedodd: "Fel y miloedd o bobl yng nghyngerdd Ariana Grande, rwyf innau wedi mwynhau digwyddiadau tebyg mewn arenâu mawr.

"Ni allaf ddychmygu sut mae'n teimlo pan fydd noson mor dda yn cael ei difetha gan weithred mor ddisynnwyr. Mae sylweddoli bod bywydau - a bywydau ifanc - wedi eu colli yn ofnadwy.

"Ni allaf ond edmygu gwaith y gwasanaethau brys a meddygol ar adegau fel hyn, ac mae ymateb pobl leol Manceinion a aeth allan o'u ffordd i helpu eraill yn wir yn galonogol.

"Mae geiriau Iesu o'r Groes - 'O Dad, maddau iddynt' - yn heriol y bore 'ma. Rwyf yn gweddïo y gall y calonnau oer a oedd tu ôl y trais hwn ddod i weld ffolineb eu gweithredoedd diangen."