Lle oeddwn i: Hei Mistar Urdd!

  • Cyhoeddwyd
Geraint Davies, cyfansoddwr y gân 'Hei Mistar Urdd'
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Davies, cyfansoddwr y gân 'Hei Mistar Urdd'

Mae hi'n un o ganeuon mwyaf bachog y Gymraeg ac wedi dal ei thir ers cenedlaethau. Eleni, mae 'Hei Mistar Urdd' - anthem swyddogol y mudiad ieuenctid cenedlaethol - yn dathlu 40 mlynedd ers ei chyhoeddi.

Bu Cymru Fyw yn siarad â chyfansoddwr un o ganeuon mwyaf cofiadwy'r Gymraeg, y cerddor Geraint Davies:

line

Wrth reswm, dwi'n falch ohoni. Dwi wedi sgwennu nifer o ganeuon dros y blynydde' ond mae'n siŵr mai honna fydd ar y garreg fedd.

Mater o lwc oedd e. O'n i'n aelod o staff ym mhencadlys yr Urdd yn Aberystwyth yn gweithio i dîm yr eisteddfod.

Ro'n i'n eistedd bron a bod drws nesa' i Wynne Melville Jones, a greodd Mistar Urdd. Dwi'n meddwl ffeindiodd e 'mod i dan ei drwyn e ac fe ofynnodd os o'n i ffansi sgwennu rhywbeth.

O'n i'n aelod o'r grŵp Hergest ar y pryd ac yn recordio ac yn sgwennu caneuon. Emyr Wyn wnaeth ei chanu hi a'r gweddill yn griw bach o adar brith - Hywel Gwynfryn ar y dryms, er enghraifft.

Geraint (chwith) yn perfformio gyda Mynediad am Ddim yn Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Geraint (chwith) yn perfformio gyda Mynediad Am Ddim yn Tafwyl

Y jôc arferol i ateb y cwestiwn 'faint gymerodd hi i sgwennu cân tair munud a hanner' yw 'wel, tair munud a hanner'! Ond dwi'n credu daeth hi'n weddol rwydd. Gymerodd hi ryw ddeugain muned falle.

O'dd rhai pethe'n cynnig eu hunain. Mae'n neis iawn bod lliwiau'r Urdd yn goch, gwyn a gwyrdd, felly mae gen ti odl yn fan'na yn syth bin.

Mae dau bennill yn y gân, un yn sôn am y gwersylloedd ac mae un yn sôn am yr aelwydydd a'r adrannau, ond does 'na ddim un yn sôn am yr eisteddfod a finne'n gweithio iddyn nhw ar y pryd!

Mae pobl dal i weld yn ei mwynhau hi. Mae'n cael ei hatgyfodi a'i hail-ddyfeisio bob hyn a hyn - mae Cic wedi gwneud fersiwn, a Rapsgaliwn.

Ond mae hi dal yno, ac mi setla i am hynny. Beth sydd isie nawr yw i'r genhedlaeth nesa' sgwennu rhagor.