Pryder rhieni ysgolion Cymraeg Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Daeth rhyw ddwsin o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Wrecsam nos Fercher i drafod pryderon rhieni am addysg Gymraeg yn yr ardal. Mae nifer o'r rhieni wedi methu cael lle i'w plant mewn ysgol o'u dewis ac mewn rhai achosion mae plant o'r un teulu yn cael eu gwahanu.
Un rhiant sydd yn wynebu gorfod hebrwng ei phlant i ddwy ysgol o fis Medi ymlaen yw Clare Roberts. Dywedodd: "Mae Osian fy mab chwech oed yn ddisgybl yn ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt ond dwi newydd gael gwybod nad oes lle yno yn y dosbarth meithrin i Dion, fy mab tair oed.
"Mae e wedi cael lle yn ysgol Plas Coch sydd ddwy filltir i'r cyfeiriad arall a dyw hi ddim yn ymarferol i fi fynd i'r ddwy ysgol gan fy mod i a 'mhartner yn gweithio. Does gen i chwaith ddim teulu yn yr ardal."
Mae rhiant arall hefyd yn galw am ehangu'r ddarpariaeth wedi iddi glywed nad yw ei merch yn gallu aros yn yr un ysgol wedi iddyn nhw symud tŷ.
'Torcalonnus'
Dywedodd Trudi Start: "Bydd fy merch i yn gorfod peidio bod gyda'i ffrindiau o fis Medi ymlaen ac mae hynny yn dorcalonnus.
"Ry'n ni wedi symud tŷ ond roeddwn wedi gobeithio y byddai fy merch yn gallu parhau i fynd i ysgol Bro Alun."
Cafodd y cyfarfod nos Fercher ei drefnu gan fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg.
Yn ôl Rhodri Davies, cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg Wrecsam: "Mae twf addysg Gymraeg yn Wrecsam wedi bod yn hynod lwyddiannus. Yn ystod y degawd diwethaf, mae twf addysg Gymraeg Wrecsam wedi cynyddu oddeutu 55% - ffigwr anhygoel.
"Yn anffodus dyw'r cyngor ddim wedi gallu cadw lan gyda'r twf ac mae rhieni yn sicr angen mwy o gymorth gan y cyngor. Dyw hyn ddim yn beth newydd - ry'n wedi bod yn sôn am y mater ers oddeutu tair blynedd.
"Mae'r hyn sy'n digwydd yn effeithio ar lawer o rieni ond oherwydd gofynion teuluol doedd hi ddim yn bosib i lawer fod yn y cyfarfod."
Ymateb y Cyngor
Ond gyda dros £11.5m wedi'i fuddsoddi, mae Cyngor Wrecsam yn dweud eu bod wedi'u hymrwymo "i wella mynediad i addysg Gymraeg"... a bod yna "fwy na digon o lefydd ar gael i ateb y galw, ond dyw rhieni ddim wastad yn gallu cael y dewis cyntaf."
"Mae rhieni sy'n dewis addysg cyfrwng Saesneg hefyd yn gallu wynebu yr un broblem."