Pryder am nifer y cwynion am fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
Glan Clwyd Hospital
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ombwdsmon wedi amlygu tri o'r cwynion yn y gogledd, oedd oll yn ymwneud ag Ysbyty Glan Clwyd

Mae nifer y cwynion am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a'r ffordd y maen nhw'n delio â'r cwynion hynny, yn bryderus medd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Rhwng mis Ebrill 2016 a Mawrth 2017 roedd 194 cwyn yn erbyn y bwrdd iechyd.

Fe wnaeth yr ombwdsmon, Nick Bennett amlygu tri o'r cwynion yn y gogledd, oedd oll yn ymwneud ag Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Betsi Cadwaladr bod y bwrdd yn cymryd pob cwyn o ddifrif, a'u bod yn eu defnyddio i wella gwasanaethau.

Fe wnaeth yr ombwdsmon ddelio â 702 cwyn ar draws Cymru yn 2016-17, gyda 194 o'r rheiny am Betsi Cadwaladr, 107 am Abertawe Bro Morgannwg, 102 am Hywel Dda a 93 am Gaerdydd a'r Fro.

Dywedodd Mr Bennett ei fod yn "bryderus am niferoedd a chanlyniadau'r cwynion yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr".

Adroddiadau achosion difrifol

Mae wedi cyhoeddi pum adroddiad am achosion difrifol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae tri o'r rheiny am Ysbyty Glan Clwyd.

Yn yr achos cyntaf, dywedodd Mr Bennett y dylai'r bwrdd iechyd fod wedi talu £20,000 i weddw claf fu farw ar ôl peidio gweld ymgynghorydd am 12 awr.

Roedd achos arall yn ymwneud â methiannau'r bwrdd pan fu farw claf canser y coluddyn ar ôl cael ei gyfeirio am lawdriniaeth.

Y trydydd achos oedd am glaf oedd â chanser allai fod yn farwol, fu'n rhaid disgwyl pedwar mis am ei driniaeth gyntaf.

Nick Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Bennett ei fod yn "bryderus am niferoedd a chanlyniadau'r cwynion"

O'r cyfanswm o £115,430 gafodd ei dalu gan fyrddau iechyd Cymru i bobl wnaeth gwyno yn y flwyddyn ddiwethaf, roedd mwy na hanner hyn - £61,999 - gan Betsi Cadwaladr.

"Tra bod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu pwysau anferth, mae'n allweddol bod gwersi yn cael eu dysgu pan fo' pethau'n mynd o'i le," meddai Mr Bennett.

Ychwanegodd y bydd swyddog gwella perfformiad yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd ac y bydd staff yn mynychu seminar ar ddelio â chwynion fis nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda swyddfa'r ombwdsmon a byddwn yn parhau i gysylltu gyda'n swyddog gwella perfformiad i sicrhau ein bod yn datblygu ein ffordd o ddelio â chwynion a dysgu o'r rheiny.

"Rydyn ni hefyd yn adolygu profiad ein cleifion a'n dulliau cwynion."