Beirniadu cabinet Bro Morgannwg am 'ddiffyg amrywiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Cabinet Bro MorgannwgFfynhonnell y llun, Cyngor Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod wedi dewis y cabinet am eu "profiad gwleidyddol a phroffesiynol"

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ei gyhuddo o gyrraedd "iselfannau newydd o ran amrywiaeth" gyda chabinet o ddynion yn unig.

Saith dyn fydd yn rheoli'r cyngor, sydd dan reolaeth y Ceidwadwyr a'u harweinydd John Thomas.

Dywedodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol nad yw cabinetau cynghorau Cymru yn adlewyrchu'r ffaith bod mwy na chwarter cynghorwyr Cymru yn ferched.

Fe wnaeth llefarydd ar ran y Ceidwadwyr nodi bod maer benywaidd y Fro, a'r dirprwy faer ifanc, yn dystiolaeth o amrywiaeth.

28% yn ferched

Mae 28% o gynghorwyr Cymru yn ferched yn dilyn yr etholiadau lleol ddechrau'r mis, meddai'r gymdeithas.

Mae'n amrywio o 42% yn Abertawe i 10% ar Ynys Môn, ond dynes, Llinos Medi, fydd yn arwain y cyngor hwnnw.

Hyd yn hyn, Bro Morgannwg yw'r unig awdurdod gyda chabinet o ddynion yn unig.

Dywedodd y Ceidwadwyr bod nifer o gynghorwyr newydd wedi eu hethol yn yr etholiadau lleol, a'u bod wedi penderfynu ar y cabinet am eu "profiad gwleidyddol a phroffesiynol".

'Pryderon difrifol'

Janice Charles sydd wedi ei phenodi fel maer, ac er bod gan y maer gyfrifoldebau seremonïol mewn cyfarfodydd, nid oes ganddi gyfrifoldebau am redeg y cyngor.

"Mae methant Cyngor Bro Morgannwg i gael unrhyw ferched ar eu cabinet yn eu gweld yn cyrraedd iselfannau newydd o ran amrywiaeth," meddai cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Jess Blair.

"Mae gennym ni bryderon difrifol bod awdurdodau eraill ar draws Cymru hefyd yn methu ag adlewyrchu amrywiaeth y cyngor yn eu cabinet."

Dywedodd llefarydd ar ran grŵp Ceidwadol Bro Morgannwg: "Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer y Fro, a bydd hwn yn awdurdod sy'n gweithio'n ddiflino i ymwneud yn fwy â phobl ifanc, cynyddu amrywiaeth a denu pobl newydd i wleidyddiaeth."