Buddugoliaeth! Munster 22-46 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Cais cyntaf y gêm i Liam Williams a hynny wrth iddo ffarwelio â'r Scarlets

Mae'r Scarlets yn dathlu wedi iddyn nhw drechu Munster yn rownd derfynol y Pro 12 yn Stadiwm Aviva yn Nulyn.

Dechreuodd y Scarlets ar dân ac yn yr hanner cyntaf yr oedd pedwar cais - y ddau gyntaf gan y ddau asgellwr Liam Williams a Steff Evans ac yna roedd dau gais arall gan Gareth Davies a'r Gwyddel Tadgh Beirne.

Roedd yna hefyd gicio llwyddiannus gan droed Rhys Patchell wrth iddo drosi deirgwaith - fe fethodd y tro cyntaf. Sicrhaodd e hefyd gôl gosb yn yr hanner cyntaf.

Roedd Munster yn fwy egnïol cyn yr egwyl ac fe lwyddodd Tyler Bleyendaal i sgorio cais gan gau'r bwlch i 19 pwynt. Fe hefyd a drosodd yn llwyddiannus ac a sicrhaodd gôl gosb i Munster ar ddechrau'r gêm.

Y sgôr felly ar yr hanner oedd Munster 10-29 Scarlets.

'Buddugoliaeth ysgubol'

Ar ddechrau'r ail hanner roedd y Munster i weld yn fwy penderfynol wrth iddynt chwarae yn hanner y Scarlets. Ond y Scarlets a gafodd y pwyntiau cyntaf wrth i Rhys Patchell sicrhau gôl gosb arall gan godi sgôr Y Scarlets i 32.

Digon blêr oedd pethau ar adegau wedi'r egwyl a "chododd y gêm ddim i'r uchelfannau," meddai'r sylwebydd Huw Llywelyn Davies.

Yn ôl Nathan Brew, roedd y Scarlets wedi colli hyder ac ysbryd ac roedd gwendidau yn yr amddiffyn ar adegau.

Bu'n rhaid i Steff Evans, prif sgoriwr ceisiau'r Pro 12 yn ystod y tymor, adael y cae oherwydd anaf.

Ond cyn i'r gêm ddod i ben sicrhaodd DTH van der Merwe ar ran y Scarlets gais arall ac roedd trosiad llwyddiannus gan Liam Williams - Williams yn cicio gan bod Rhys Patchell wedi gadael y cae.

Roedd yna hefyd gais hwyr i Munster yn fuan wedyn a dwy funud cyn diwedd y gêm cais arall i'r tîm cartref.

Y Scarlets gafodd y sgôr olaf wrth i James Davies sgorio cais. Roedd trosgais Liam Williams hefyd yn llwyddiannus.

Buddugoliaeth ysgubol i'r Scarlets. Y sgôr terfynol felly Munster 22-46 Scarlets.

Seren y gêm oedd Aaron Shingler.