Pont y Borth: 'Fyse'r cau ddim wedi gallu dod ar amser gwaeth'

"Gallai cau'r bont ddim wedi dod ar amser gwaeth," meddai Rhiannon Elis-Williams sy'n cadw siop Awen Menai ym Mhorthaethwy
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog siop ym Mhorthaethwy yn dweud na allai cau Pont y Borth fod wedi dod ar amser gwaeth i fusnesau'r dref.
Daeth cyhoeddiad annisgwyl ddydd Sadwrn fod Pont y Borth yn cau am gyfnod amhenodol yn sgil gwaith atgyweirio.
"Gawson ni ddim math o rybudd o gwbl," meddai Rhiannon Elis-Williams o siop Awen Menai.
Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates wedi ymddiheuro ac yn dweud fod Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth o fewn eu gallu i ddatrys y sefyllfa cyn gynted ag y bo modd".
'Mae'n ddifrifol'
"I ni fyddai o ddim wedi dod ar adeg gwaeth a bod yn gwbl onest - jyst cyn 'Dolig rŵan ydy'r adeg pan mae petha' yn dechrau prysuro," meddai Ms Elis-Williams ar Dros Frecwast fore Llun.
"'Dan ni wedi prynu llwyth o stoc ar gyfer 'Dolig a 'dan ni'n gwybod bydd llawer llai o bobl yn gneud y drafferth i ddod draw i Borthaethwy achos mae'n rhaid i chi ddreifio rownd Pont Britannia a g'neud ymdrech i ddod i drefi Porthaethwy a Biwmares.
"'Dan ni'n dibynnu lot ar bobl leol - o ogledd Cymru i ddod dros y bont. Ydy, mae'n ddifrifol."

Bydd y bont ar gau am gyfnod amhenodol tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal
Ddydd Sadwrn, yn annisgwyl, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai Pont y Borth yn cau am gyfnod amhenodol wedi i waith archwilio ddarganfod bod angen bolltau newydd ar rai o'r trawstiau o dan y bont.
Ddiwrnod cyn hynny roedd cyfyngiadau pwysau newydd wedi eu cyflwyno er mwyn ceisio cadw'r bont ar agor.
Mae Mr Skates wedi ymddiheuro, gan ddweud bod ei lywodraeth yn gwneud "popeth o fewn eu gallu i ddatrys y sefyllfa cyn gynted ag y bo modd".
Ychwanegodd eu bod wedi "archwilio pob opsiwn i gadw'r bont ar agor yn ddiogel", ond yn dilyn cyngor gan y peirianwyr sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont, Priffyrdd y DU A55, doedd dim opsiwn ond ei chau yn llwyr.
"Er gwaethaf ein holl rwystredigaethau mae'n rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr i sicrhau diogelwch pawb," meddai.

Roedd ciwiau hir rhwng Porthaethwy a Phont Britannia fore Llun, gyda Phont y Borth ar gau
Dair blynedd yn ôl fe gafodd y bont ei chau am gyfnod ar gyfer gwaith atgyweirio, ac ym mis Mai 2025 dywedodd Llywodraeth Cymru bydd gwaith cynnal a chadw yn parhau ar Bont y Borth tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf.
"Dair blynedd yn ôl cyn 'Dolig fe gafodd effaith fawr," ychwanegodd Ms Elis-Williams.
"O'dd o'n effaith fawr iawn. Oeddach chi'n gweld yn sydyn dros nos bod pobl ddim yn dod i'r siop - mae'n dychryn chi.
"Dwi ddim yn gweld bai ar bobl am beidio 'neud y daith ychwanegol.
"Dwi ddim yn edrych ymlaen at wynebu yr un sefyllfa eto ac mae busnesau ym Mhorthaethwy yn gwbl ddibynnol ar bobl leol.
"Mae 'na lot o siopau bach teuluol, caffis, bwytai - yr adeg yma tan 'Dolig 'dan ni'n 'neud y mwyaf o fusnes.
"'Dan ni'n poeni achos mae busnesau bach yn fregus ac mae strydoedd mawr lle mae cyfle i bobl siopa yn lefydd bregus wedi mynd.
"Dwi'n gobeithio y bydd gwell cyfathrebu gyda ni fel busnesau nag oedd 'na dair blynedd yn ôl ac efallai gallai Llywodraeth Cymru, y cyngor lleol a'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith ddod â phecyn cymorth yn benodol i bobl tre Porthaethwy."
'Fydd ein busnesau yn dal ar agor?'
Un arall sy'n poeni yw Jane Walsh o gaffi Plus39 ym Mhorthaethwy.
"Bore 'ma mae'r caffi, sy'n arfer bod yn llawn, yn wag," meddai ar Radio Wales.
"Mae pobl yn osgoi Porthaethwy gan bod y bont ar gau. Dwi'n poeni oherwydd pan ddigwyddodd hyn y tro diwethaf roedd hi'n anodd cael pobl yn ôl i'r dre'.
"Flwyddyn nesa' mae'r bont yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 ac mae 'na lot o ddathliadau i fod.
"Ond a fydd ein busnesau yn dal ar agor erbyn hynny? Gallai rhai busnesau fynd i'r wal – roedd rhai yn agos at hynny y tro diwethaf."

Bydd y bont ar gau am gyfnod amhenodol tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.
Mae disgwyl mwy o fanylion am unrhyw ddatblygiadau yn fuan.
Yn 2026 bydd y bont yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl