Cyhoeddi enw Bardd Plant Cymru ar gyfer 2017-2019
- Cyhoeddwyd
Cafodd enw Bardd Plant Cymru ar gyfer cyfnod 2017-2019 ei gyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd Ogwr, Taf ac Elái brynhawn dydd Mawrth.
Casia Wiliam, o Nefyn yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, fydd yn cymryd yr awenau gan y bardd plant presenol Anni Llŷn.
Daeth y cyhoeddiad o lwyfan y Brifwyl gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Casia Wiliam fydd y pymthegfed bardd plant, a bydd yn dechrau ar y gwaith yn swyddogol ym mis Medi.
Mae wedi cyhoeddi dau lyfr i blant, wedi addasu dwy o nofelau Michael Morpurgo i'r Gymraeg ac mae'n aelod o dîm Y Ffoaduriaid ar gyfres radio BBC Cymru, Talwrn y Beirdd.
"Dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy at gael crwydro ledled Cymru yn cyfarfod yr holl blant, y rhai sy'n cael modd i fyw wrth sgwennu a'r sgwennwyr anfoddog!" meddai.
'Pleser pur'
"Mi fydd yn bleser pur clywed eu syniadau, tanio eu dychymyg, ac annog pawb i roi cynnig ar sgwennu cerdd.
"Yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru dwi'n gobeithio dangos i blant bod pawb yn gallu sgwennu cerdd, bod barddoniaeth yn rhywbeth sy'n byw yn y glust nid dim ond ar bapur, a bod darllen a sgwennu barddoniaeth yn ffyrdd gwych o weld a phrofi bywyd trwy lygaid rhywun, neu rywbeth arall."
Dywedodd Casia fod cael ei gwneud yn Fardd Plant Cymru yn "fraint", a'i bod wedi bod yn uchelgais iddi ers amser.
"Nes i ddechrau barddoni pan yn blentyn fy hun - dwi'n cofio Bethan Gwanas yn dod i Ysgol Nefyn ac fe gafon ni weithdy barddoniaeth, a nes i fwynhau'n ofnadwy," meddai.
"Dwi hyd yn oed yn cofio Myrddin ap Dafydd yn cael ei wneud yn Fardd Plant Cymru - dwi'n meddwl mai 12 oed oeddwn i ar y pryd. Mae Anni wedi gwneud yn anhygoel, ac wedi dod â'i phersonoliaeth i'r rôl, ond dwi'n gobeithio torri cwys fy hun," meddai.
"Dwi'n cofio pan oeddwn i yn yr ysgol roedd 'na blant oedd yn licio 'sgrifennu a barddoniaeth, fel fi, oedd wastad wedi ecseitio pan oedd 'na rywun yn dod i'r ysgol. Ond roedd gennych chi wastad blant oedd yn meddwl 'o na, barddoniaeth' - felly dwi'n ei osod fel her i'n hun i geisio cael y 'sgrifennwyr anfoddog i fwynhau.
"Y nod yw ceisio cael nhw i sylweddoli bod barddoniaeth yn rhywbeth allan nhw ei berchnogi hefyd - ei fod o'n rhywbeth i bawb."
Brwdfrydedd
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru am y cyhoeddiad: "Rydym wrth ein boddau fod Casia yn cymryd yr awenau, a hoffem ddiolch i Anni am ei holl waith a'i brwdfrydedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mae pob Bardd Plant Cymru wedi perchnogi a datblygu'r cynllun ac rydym yn edrych ymlaen at weld i ba gyfeiriad y bydd Casia yn ei arwain. Mae hi'n lenor talentog dros ben, ac rydym fel partneriaid yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y cynllun yn torri tir newydd a chyffrous. Mynnwch weithdy ac ymweliad ganddi!"
Bydd Anni Llŷn a Casia Wiliam yn cynnal rhai digwyddiadau ar y cyd rhwng nawr a diwedd yr haf, gan gynnwys Talwrn y Beirdd Bach yn ffair Tafwyl 2017 ar 1 Gorffennaf.
Cynllun ar y cyd yw cynllun Bardd Plant Cymru rhwng Llenyddiaeth Cymru, Yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru.