Dedfrydu dyn am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Stafford wedi ei anfon i garchar am wyth mlynedd am achosi marwolaeth cwpl o Sir y Fflint drwy yrru'n beryglus.
Bu farw Tracy Louise Haley, 49, a Darren Lowe, 43, o Fagillt, yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A543 ger Pentrefoelas.
Cafodd Shaun Goldstraw, 21 oed o Leek, ei ddedfrydu ddydd Iau ar ôl pledio'n euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fis Mai i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar 27 Chwefror y llynedd rhwng car Renault Clio Goldstraw a Mercedes SLK y cwpl.
'Trac rasio'
Dywedodd y barnwr mai "dyma'r esiampl waethaf o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus".
Ychwanegodd bod Galdstraw "wedi defnyddio'r ffordd fel trac rasio gan gyrraedd cyflymder o hyd at 107mya".
Dywedodd hefyd bod ei "ymddygiad hunanol wedi achosi marwolaeth dau berson wrth iddo gymryd risg fwriadol er mwyn bodloni gwefr".
Mae Golsdstraw wedi ei wahardd rhag gyrru am 12 mlynedd, gyda'r gwaharddiad yn dod i rym ar ôl iddo gael ei ryddhau.