Real Madrid a Bale yn ennill Cynghrair y Pencampwyr
- Cyhoeddwyd
Roedd ymosodwr Cymru a Real Madrid, Gareth Bale yn rhan o'r tîm enillodd Cynghrair y pencampwyr yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Er i Bale beidio dechrau'r gêm fe ddaeth ar y cae gyda 13 o funudau yn weddill o'r gêm i wynebu Juventus.
Cristiano Ronaldo oedd seren y gêm wrth iddo sgorio dwy allan o'r bedair gôl i Real Madrid.
Real aeth ar y blaen yn gyntaf gydag ergyd gan Ronaldo cyn i Mario Mandzukic sgorio gôl wych i Juventus gyda chic dros ei ben.
Roedd y gêm yn gyfartal 1 - 1 ar yr egwyl.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn danllyd ond Real Madrid oedd yn rheoli'r meddiant.
Sgoriodd Casemiro ail gol i Real gydag ergyd o du allan i'r cwrt cosbi a gymerodd gyffyrddiad ar ei ffordd i'r rhwyd oddi ar chwaraewr Juventus.
Fe aeth dwy yn dair wrth i Ronaldo dorri calonnau'r Eidalwyr pan gyfeiriodd y bêl am ei ail o'r gêm.
Gyda'r sgôr yn 3 - 1 dyma Gareth Bale yn camu i'r cae i gymeradwyaeth uchel Stadiwm Cenedlaethol Cymru.
Gyda phum munud yn weddill roedd Juventus lawr i 10 dyn ar ôl i'r eilydd Juan Cuadrado weld ei ail garden felen o'r gêm.
Yn munudau olaf y gêm, gyda chyrff blinedig roedd Real Madrid yn llwyr reoli'r gêm a fe sgoriodd Marco Asensio bedwaredd Real yn dilyn croesiad gan Marcello.
Roedd hynny yn ddigon i sicrhau'r tlws i Real Madrid am yr ail flwyddyn yn olynol ac yn sicrhau bod Bale yn cael codi'r gwpan yn ei ddinas enedigol.
Dywedodd Gareth Bale ar ddiwedd y gêm:
"Mae Caerdydd wedi gwneud gwaith gwych fel dinas i gael y gêm ymlaen ac rydym i gyd yn ddiolchgar o hynny.
"Roedd hi'n freuddwyd i mi ennill y gystadleuaeth yma yng Nghaerdydd, mae hi wedi bod yn dymor anodd i mi o ran anafiadau ond dwi wrth fy modd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2017