Miloedd o gefnogwyr pêl-droed ar strydoedd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Plismyn a CefnogwyrFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 2,000 o blismyn ar ddyletswydd yng Nghaerdydd

Mae miloedd o gefnogwyr pêl-droed ar strydoedd Caerdydd yn paratoi i wylio rownd derfynnol Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn.

Mae disgwyl hyd at 170,000 o bobl yn y brif ddinas i wylio Juventus yn herio Real Madrid.

Gyda llawer wedi teithio o'r Eidal ac o Sbaen, mae rhai cefnogwyr wedi dod mor belled â Brasil, Iran ac Awstralia.

Mae'r Heddlu wedi rhybuddio pobl i beidio â phrynnu tocynnau gan dowtiaid.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd unai cefnogwyr Juventus (chwith) neu Real Madrid yn dathlu yn dilyn y gêm

Daw'r rhybudd yn dilyn arestio tri pherson am droseddau tebyg.

Fe fydd dyn 35 oed o Napoli yn ymddangos o flaen Llys ynadon Caerdydd ddydd llun ar ol iddo gael ei arestio ddydd Gwener yn dilyn gwybodaeth gan heddwas o'r Eidal nad oedd ar ddyletswydd.

Dydd Sadwrn fe gafodd na ddyn 32 oed a'r llall yn 28 oed eu harestio ar amheuaeth o dwyll ar ol iddyn nhw gael eu darganfod gyda swm sylweddol o arian. Maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Roedd yr Heddlu'n rhybuddio pobl sydd wedi prynnu tocynnau ar y stryd bydd posib iddyn nhw gael eu rhwystro rhag mynd mewn i'r stadiwm os mai tocynnau ffug neu rhai wedi ei dwyn oedden nhw.

Mae 2,000 o blismyn ar ddyletswydd yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Y ffeinal rhwng Real Madrid a Juventus yw digwyddiad chwaraeon mwyaf 2017.

Cafodd nifer o ffyrdd eu cau am hanner nos, dolen allanol, ac fe fydd y rhan fwyaf ohonyn nhw ar gau nes 03:30 fore Sul.

Bydd yr heddlu hefyd yn dewis pobl ar hap i'w stopio a'u chwilio fel rhan o ymgyrch diogelwch anferth.

Cyhoeddodd Heddlu'r De y bydd 2,000 o blismyn ar ddyletswydd ar draws y ddinas.

'Proffesiynol a chyfeillgar'

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Richard Lewis, mai'r flaenoriaeth yw i sicrhau digwyddiad cofiadwy a diogel, a bod pethau'n mynd yn dda hyd yma: "Mae'n dull plismona ni yn y de yn broffesiynol ond cyfeillgar - rhywbeth ry' ni'n falch iawn ohono a dull y mae'r cyhoedd wedi ei gofleidio'r wythnos hon.

"Mae'r ŵyl ym Mae Caerdydd dros y dyddiau diwethaf wedi atgyfnerthu'r cydbwysedd rhwng dogelwch a mwynhad y cyhoedd yr oedden ni'n gobeithio ei weithredu.

"Wrth i ni edrych ymlaen at y prif ddigwyddiad heddi, fydd hynny ddim yn newid."

Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Real Madrid yn dechrau ymgynnull o flaen y stadiwm

Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n dal i ymchwilio wedi i 13 tocyn ar gyfer y rownd derfynol gael eu dwyn o westy ger Maes Awyr Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynghori pobl i beidio gyrru i'r ddinas, ac mae Trenau Arriva Cymru yn annog pobl i osgoi defnyddio eu gwasanaethau, dolen allanol os nad yw'n angenrheidiol.

Mae gyrwyr wedi'u gwahardd o'r holl ffyrdd o amgylch y Stadiwm Cenedlaethol Cymru, Sgwâr Callaghan a Chanolfan Siopa Capitol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canol Caerdydd yn prysuro wrth i fwy o gefnogwyr gyrraedd y ddinas

Yn raddol, mae mwy a mwy o ffyrdd wedi eu cau ers dydd Iau.

Cafodd Heol Ddwyreiniol y Bontfaen ei chau rhwng yr Heol Gadeiriol a Stryd Westgate ddydd Mercher, a bydd y ffordd honno yn parhau ar gau nes 06:00 fore Llun.

Mae Rhodfa Lloyd George hefyd ar gau o Sgwâr Callaghan hyd at y Bae, ac mae hynny nes 22:00 nos Sul.

Trenau

Mae disgwyl i orsaf drenau Caerdydd Canolog fod yn brysur iawn trwy gydol y diwrnod, a ni fydd unrhyw wasanaethau Trenau Arriva Cymru yn gadael yr orsaf rhwng 19:00 a 23:00.

Ar ôl hynny, dim ond gwasanaethau i Fryste, Llundain, canolbarth Lloegr ac Abertawe fydd yn gadael yr orsaf, gyda rhai yn rhedeg nes 05:00 fore Sul.

Bydd system giwio yn cael ei gweithredu, ond mae 'na rybudd i deithwyr y gallai gymryd hyd at 90 munud cyn y byddan nhw ar dren ac ar eu taith.

Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Juventus yn paratoi ar gyfer y gêm

Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Real Madrid cyn y gêm yng Nghaerdydd