Signal ffôn llawn yn dychwelyd i bentref diarffordd

  • Cyhoeddwyd
Y pentrefFfynhonnell y llun, Alamy

Bydd trigolion pentref ym Mhowys, sydd yn cael ei gydnabod fel un o'r rhai mwyaf diarffordd ym Mhrydain, nawr yn gallu defnyddio eu ffonau symudol i edrych ar y we fisoedd ar ôl i'r ardal golli cysylltiad gyda'r mast.

Dyw Penffordd-las ger Llanidloes ddim wedi bod gyda chysylltiad rhyngrwyd na signal ffôn digonol ers 2015.

Ond nawr mae mast ffôn symudol barhaol wedi ei osod, gan olygu y bydd pobl yn gallu defnyddio 3G a 4G yn y pentref.

"Roedd o'n ofnadwy i ddweud y gwir, doedd y ffon tŷ ddim yn gweithio chwaith hanner yr amser, ond son am y we roedd o'n annioddefol ar y gorau," meddai Alwena Pugh sy'n byw yn yr ardal.

'Cam positif'

"Ma' pawb wedi trio ei'n helpu ni ac o'r diwedd mae rhywun wedi llwyddo i wneud hynny.

"Mae o'n wych. Mae'n bleser rŵan, o'r blaen roedd o'n boen i ddefnyddio."

Yn ôl ymgyrchwyr mae'n "gam enfawr, positif" ymlaen.

Ym mis Awst 2015 y dechreuodd trigolion yr ardal sydd rhwng Llanidloes a Llanbrynmair gael problemau defnyddio eu ffonau.

Cafodd mast 2G ei rhoi yn Penffordd-las oedd yn golygu bod modd anfon negeseuon testun a gwneud galwadau.

Ond bydd y mast newydd yn galluogi'r trigolion i gysylltu gyda'r we a gwneud galwadau o unrhyw le yn yr ardal.