Theresa May am i ffermwyr allu parhau i allforio i'r UE
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud ei bod eisiau i ffermwyr Cymru allu parhau i allforio'u cynnyrch i'r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit.
Bydd trafodaethau ar ymadawiad Prydain o'r UE yn dechrau'n ddiweddarach ym mis Mehefin, ac yn ystod deuddydd olaf yr ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol mae'r Ceidwadwyr wedi canolbwyntio ar bwy fyddai orau i arwain y trafodaethau fel Prif Weinidog.
Tra ar ymweliad â fferm yn etholaeth De Clwyd, gofynnwyd i Mrs May a fyddai gadael y farchnad sengl yn niweidiol i ffermio yng Nghymru.
"Mae bod yn aelod o'r farchnad sengl yn golygu derbyn y rhyddid i symud," meddai.
'Cynllun clir'
"Mae'n golygu derbyn awdurdod Llys Cyfiawnder Ewrop - dyna'n union yr hyn y pleidleisiodd pobl yn ei erbyn pan bleidleision nhw o blaid y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Yr hyn sydd angen i ni ei sicrhau yw ein bod ni'n cael y cytundeb masnach iawn, fel y gall ffermwyr barhau i allforio'u cynnyrch i'r Undeb Ewropeaidd ond y gallwn ni hefyd agor llwybrau i ffermwyr fasnachu gyda gweddill y byd.
"Mae sicrhau'r cytundeb masnach rydd yna yn fy nghynllun i ar gyfer trafodaethau Brexit. Mae'r trafodaethau'n dechrau 11 diwrnod wedi'r diwrnod pleidleisio, lai na phythefnos i ffwrdd.
"Mae angen llywodraeth arnom sy'n barod i ddechrau ar y trafodaethau yna gyda chynllun clir, a dyna sydd gen i a'r tîm Ceidwadol."
Deuddydd o ymgyrchu sy'n weddill cyn y bydd y gorsafoedd pleidleisio'n agor, a dyma drydydd ymweliad Theresa May â Chymru ers galw'r etholiad brys.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron yn ymweld ag etholaeth Sir Drefaldwyn, yn sôn am ei bryderon dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Plaid Cymru'n ymweld â meddygfa yng ngorllewin Caerdydd i leisio pryderon am brinder meddygon teulu, mater sydd wedi'i ddatganoli yng Nghymru.
Mae Llafur Cymru ac UKIP yn parhau i ymgyrchu'n lleol.