Ceidwadwyr: 'Dim cweryla' rhwng Davies a Cairns
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwadu ei fod wedi "cweryla" ag Ysgrifennydd Cymru, er iddo ddweud nad oedd yn fodlon cymryd rhan mewn dadl deledu.
Cafwyd ffrae rhwng Andrew RT Davies ac Alun Cairns yn gynharach yn yr ymgyrch etholiadol wedi i'r un o'r ddau gymryd rhan mewn dadl deledu BBC Cymru.
Fe wnaeth y ddau roi rhesymau gwahanol pam nad oedd yr un ohonyn nhw yno.
Ond mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth dywedodd Mr Davies fod Mr Cairns wedi, ac y byddai'n parhau, i wneud gwaith gwych fel Ysgrifennydd Cymru.
'Ddim yn poeni'
Pan ofynnwyd iddo sôn a fyddai'r blaid yn gallu troi yn ei erbyn, dywedodd Mr Davies: "Yw hwn yn edrych fel gwyneb dyn sy'n poeni?"
Bu'n rhaid i AC Gorllewin Clwyd, Darren Millar gymryd yr awenau ar ran y Ceidwadwyr yn nadl arweinwyr BBC Cymru, gafodd ei darlledu ddydd Mawrth diwethaf.
"Wnaethon ni ddim cweryla o gwbl," meddai Mr Davies.
"Mae Alun a finnau wedi gweithio'n ddiflino dros y blynyddoedd gyda'n gilydd ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gydag Alun.
"Mae Alun wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn Ysgrifennydd Cymru gwych."
Gwadodd honiadau cynharach gan ffynhonell o fewn y blaid Geidwadol ei fod yn diflasu gyda'i swydd.
"Dyma ddyn sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau fod y Ceidwadwyr yn llwyddo ddydd Iau, yn cefnogi'n hymgeiswyr," meddai, gan gyfeirio at ei hun.
Mae 'na lawer o bobl sy'n cuddio tu ôl i'w cyfrifiaduron, o bob plaid.
"Beth sy'n fy synnu i yw faint o sylw mae'r cyfryngau gwleidyddol yn ei roi i ffynhonellau dienw."
'Cefnogaeth di-gwestiwn'
Dywedodd Mr Davies fod y prif weinidog Theresa May wedi datgan ei chefnogaeth iddo yn gyhoeddus.
"A dwi ddim yn chwilio am gefnogaeth i fod yn onest gyda chi, achos dwi ddim yn y sefyllfa yna," ychwanegodd.
Roedd Mr Cairns wedi dweud wrth BBC Radio Wales mai Mr Davies oedd "wastad i fod" i gymryd rhan yn y ddadl deledu, ond fod Mr Davies wedi methu â gwneud "am resymau personol".
Wedi hynny fe wnaeth llefarydd ar ran Mr Davies ryddhau datganiad yn honni fod Mr Cairns wedi bod yn "anfodlon" ymddangos yn y ddadl ei hun.
Mewn cyfweliad diweddarach a BBC Radio Wales yn dilyn y ffrae, mynnodd Mr Cairns ei fod yn cefnogi Mr Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig "yn ddi-gwestiwn".