Rhybuddio pobl ifanc Sir Benfro am neidio i'r môr o uchder

  • Cyhoeddwyd
Harbwr Dinbych y PysgodFfynhonnell y llun, Rhys Evans
Disgrifiad o’r llun,

Harbwr Dinbych y Pysgod

Mae pobl ifanc yn Sir Benfro yn cael eu rhybuddio i beidio â neidio i'r môr o uchder.

Mae digwyddiad wedi'i drefnu ddydd Gwener yn harbwr Dinbych y Pysgod i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon.

Daw hyn yn dilyn cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu gweld yn neidio i'r môr yn ddiweddar.

Dywedodd Nick Hudd o dîm ieuenctid Sir Benfro: "Mae neidio yn broblem yn Ninbych y Pysgod."

Mae'r weithred o neidio o uchder, sy'n cael ei alw'n 'tombstoning', wedi arwain at nifer o anafiadau a hyd yn oed marwolaethau ar hyd y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Mr Hudd ei bod hi'n bwysig i gael "trafodaeth ddwy ffordd" ar y pwnc.

Ychwanegodd: "Rydym eisiau siarad gyda phobl ifanc i ddarganfod pam eu bod nhw'n gwneud hyn."