Oedi trefn unedau cwarantin ffermydd tan fis Medi

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg

Mae undebau amaeth wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno trefn newydd o unedau cwarantin ar ffermydd am dri mis arall.

Roedd ffermwyr yn dweud bod y cynllun oedd fod i ddod i rym ar 12 Mehefin yn "ddinistriol" i sioeau amaethyddol ac roedd y rheolau oedd wedi'i gosod gan Lywodraeth Cymru yn "rhy llym".

Fe wnaeth yr undebau amaeth ddadlau nad oedd amaethwyr wedi cael digon o amser i sefydlu'r unedau ac mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu'r penderfyniad.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amaeth, Lesley Griffiths bod "y penderfyniad wedi'i wneud ar ôl trafodaethau gyda sefydliadau ffermio allweddol".

Ychwanegodd: "Rwy'n siŵr bydd y dull yma o fudd i amaethwyr y sioeau amaethyddol ac i'r rhai sy'n bwriadu arddangos eu hanifeiliaid yn y digwyddiadau gwledig pwysig yma."

Gwaharddiad

Ar hyn o bryd os yw ffermwyr yn dod â defaid, gwartheg neu eifr newydd i'r fferm (ar ôl sioe neu marchnad) mae 'na waharddiad ar symud unrhyw anifeiliaid ar y fferm am chwe niwrnod.

Ond i'r rhai hynny sydd eisiau arddangos mewn mwy nag un sioe o fewn wythnos, mae modd cael cae neu sied ar wahân, neu uned arbennig sy'n gwahanu.

Ond o dan y drefn newydd bydd yr unedau ar wahân yma yn cael eu gwahardd a bydd rhaid cofrestru, a thalu, am uned cwarantin yn eu lle.

Ond ni allai'r unedau ar wahân yma gael ei defnyddio o dan y rheolau newydd a bydd rhaid i ffermwyr wneud cais a thalu am unedau cwarantin newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ffermwyr yn dweud bod y rheolau newydd yn fygythiad i sioeau amaethyddol

Mae'r undebau amaeth wedi croesawu'r penderfyniad.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: "Mae'r penderfyniad pragmatig yma sy'n cael ei groesawu yn caniatáu i'r rhai sy'n mynychu sioeau a phrynu anifeiliaid i barhau i ddefnyddio'r unedau ar wahân o dan y rheolau presennol hyd nes y dyddiad newydd.

"Mae hyn yn lleihau'r problemau byddai wedi codi i'r rhai sy'n mynychu sioeau," meddai.

Mae Undeb NFU Cymru hefyd yn croesawu'r penderfyniad. Yn ôl is-lywydd yr Undeb, John Davies mae'n "newyddion croesawgar i'r diwydiant."