Sut mae ennill Coron neu Gadair yr Eisteddfod?
- Cyhoeddwyd
Ddydd Llun a dydd Gwener yr Eisteddfod, am 4.30pm, bydd y Pafiliwn dan ei sang - gyda phawb yn heidio i weld pwy fydd yn ennill dwy brif wobr y Brifwyl - y Goron ddechrau'r wythnos, a'r Gadair ddiwedd yr wythnos.
Ond ydych chi'n gwybod beth yn union yw arwyddocâd y gwobrau hyn, a beth sydd yn rhaid i'r prifeirdd ei wneud er mwyn bod â siawns o ennill y tlws, y parch a'r bri?
Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda Mererid Hopwood, yn un o'r beirdd prin hynny sy'n gallu brolio eu bod nhw wedi ennill y ddwbl Eisteddfodol, sef y Goron a'r Gadair.
Dwy wobr
Mererid oedd y ferch gyntaf i ennill y Gadair, a hynny yn Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau yn 2001, a dwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd y Goron yn Eisteddfod Meifod.
"Wrth gwrs, mae'r ddwy wobr yn arbennig iawn i mi, ac efallai bod ychydig o flas 'gwyn y gwêl' ar fy ateb, ond dwi'n credu bod y goron a'r gadair sydd gen i'n hardd tu hwnt. Gwaith Chris Hilling yw'r gadair a John Price yw gof y goron, ac mae'r naill fel y llall yn dweud ei stori ei hunan.
"Mae pobl yn aml yn holi pa mor hir gymerodd y cerddi i'w hysgrifennu, sy'n eithaf anodd i'w ateb am fod y syniadau a'r llinellau'n rhyw fyw yn eich meddwl chi siŵr o fod am sbel cyn i chi roi pen ar bapur, ond fy nghof i yw bod y bryddest wedi dod yn llawer cynt na'r awdl. Mae gofynion pendant cystadleuaeth y Gadair yn gofyn i chi wirio llinellau er mwyn sicrhau eu bod nhw i gyd 'mewn cynghanedd gyflawn'… a gall fod un llythyren yn bwrw'r llinell gyfan mas.
"Mae'r ffaith fod rhaid medru cynganeddu cyn gallu rhoi tro ar ennill y Gadair yn gallu ei gwneud hi'n anoddach i'w hennill ar un olwg, ond wedyn, fel arfer, mae mwy yn ymgeisio am y Goron. Ac wedyn, ydy'ch cân chi'n digwydd cyd-fynd â chwaeth y beirniad, neu beth yw ansawdd y rhai eraill sydd yn y ras? Doed a ddêl, mae angen dogn o lwc yn y ddwy gystadleuaeth!"
Y Gadair
Mae Cadair yr Eisteddfod yn cael ei rhoi i'r bardd sy'n cyfansoddi'r awdl orau, sef cerdd, neu gasgliad o gerddi, mewn cynghanedd gyflawn, ar destun sy'n cael ei osod gan yr Eisteddfod.
Mae tystiolaeth fod yr arfer o gadeirio beirdd wedi digwydd cyn belled yn ôl â chyfnod Hywel Dda yn y 10fed ganrif. Enw'r prif fardd oedd pencerdd, ac roedd yn ennill cadair yn llys y brenin am ei farddoniaeth.
Er fod eisteddfodau wedi eu cynnal dros y canrifoedd nesaf, yn 1861 y dechreuodd yr Eisteddfod Genedlaethol fodern, a hynny yn Aberdâr. Enillydd y Gadair y flwyddyn honno oedd y Parch Morris Williams (Nicander) am ei awdl ar y testun 'Cenedl y Cymry'.
Eleni rydyn ni'n cofio canrif ers Eisteddfod y Gadair Ddu, pan fu farw'r bardd buddugol, Hedd Wyn, cyn iddo gael gwybod ei fod wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Penbedw. Digwyddodd sefyllfa debyg yn Eisteddfod Wrecsam yn 1876 hefyd, pan fu farw Thomas Jones (Taliesin o Eifion) ychydig wythnosau cyn y seremoni. Cafodd y gadair ei gorchuddio â defnydd du.
Aneirin Karadog enillodd y Gadair yn Eisteddfod 2016 yn Y Fenni am ddilyniant o gerddi ar y testun 'Ffiniau'.
Eleni, testun yr awdl yw 'Arwr neu Arwres'. Bydd y prifardd yn ennill cadair hardd a gafodd ei gwneud gan y saer o Ysbyty Ifan, Rhodri Owen.
Y Goron
Mae Coron yn cael ei rhoi am y gerdd neu gasgliad o gerddi gorau yn y dull rhydd - hynny yw, nid oes cynghanedd iddi.
Fodd bynnag, yn ôl rheolau'r Eisteddfod, "caniateir cynnwys ambell i linell ddamweiniol neu anfwriadol gynganeddol mewn gwaith a anfonir i gystadleuaeth y Goron".
Er fod y Gadair wedi cael ei gwobrwyo i gerddi caeth ers 1861, nid oedd gwobr debyg i gerddi rhydd - rhywbeth a oedd yn corddi nifer o feirdd. Roedd rhai'n dadlau y dylai'r Gadair gael ei gwobrwyo am y gerdd orau - boed hynny'n awdl gaeth NEU bryddest rydd. Yn dilyn llawer o drafod a dadlau, cafodd cyhoeddiad ei wneud yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1867 bod gwobr newydd am gael ei chreu am y bryddest orau, ac y byddai'r bardd yn un 'coronog'.
Enillydd cyntaf y gystadleuaeth honno oedd Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) am ei bryddest ar 'Elias y Thesbiad' yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1868. Enillodd £20 a medal gwerth £15 gan nad oedd penderfyniad clir wedi cael ei wneud ynglŷn â sut beth yn union fyddai 'urdd goronog'.
Ond yn ôl rhai, Hwfa Môn oedd enillydd cynta'r goron, gyda'i bryddest fuddugol am Owain Glyndŵr yn Eisteddfod 1867. Gellir dadlau fod hyn yn wir, gan iddo ennill y gystadleuaeth hon y dydd ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud am sefydlu cystadleuaeth y goron!
Elinor Gwyn enillodd Goron Eisteddfod Sir Fynwy yn 2016 am gyfansoddi casgliad o gerddi ar y testun 'Llwybrau'.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, roedd rhaid i gystadleuwyr ysgrifennu pryddest ar y testun 'Trwy Ddrych' am siawns o ennill y Goron hardd gafodd ei gwneud gan John Price.