Bele'r coed yn ymddangos am y tro cyntaf ers eu hadfywiad

  • Cyhoeddwyd
KitFfynhonnell y llun, EPA

Mae bele'r coed cyntaf a aned ac a fagwyd yng Nghymru fel rhan o brosiect adfer wedi cael eu dal ar gamera.

Roedd mam y bele ymhlith y grŵp cyntaf o 20 a gafodd eu rhyddhau yng nghanolbarth Cymru o'r Alban yn 2015.

Roedd y bele yn arfer bod yn anifail cyffredin yng Nghymru, ond fe ddaethant yn agos at ddiflannu erbyn yr 20fed ganrif.

"Mae'r dystiolaeth yma eu bod wedi bod yn bridio yng Nghymru yn gyffrous iawn," meddai Hilary Macmillan o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, elusen cadwraeth mamaliaid.

Pawb ddim yn hoff

"Mae hyn yn profi eu bod yn bridio yn llwyddiannus yng Nghymru."

Mae'n debyg bod y fam, sy'n cael ei adnabod fel PM 16, wedi rhoi genedigaeth tua mis yn ôl, wedi iddi feichiogi'r llynedd.

Mae eraill ymhlith y grŵp a gafodd eu hadleoli wedi rhoi genedigaeth y llynedd, ond y gred yw eu bod wedi beichiogi ar ôl paru, a hynny cyn eu symud i Gymru.

Ond dyw pawb ddim yr un mor gyffrous o glywed y newyddion, gydag un tirfeddiannwr yng Ngheredigion yn galw'r creaduriaid yn "beiriannau lladd".

Hyd yma, mae 39 o fele'r coed wedi cael eu hadleoli i ganolbarth Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda 20 arall yn cyrraedd yr hydref hwn.