Grŵp annibynnol yn cipio Cyngor Merthyr Tudful gan Lafur

  • Cyhoeddwyd
Merthyr council offices
Disgrifiad o’r llun,

Grŵp annibynnol sydd â'r allweddi i swyddfeydd Cyngor Merthyr Tudful

Mae cynghorwyr annibynnol wedi cipio rheolaeth ar awdurdod lleol Merthyr Tudful yn dilyn isetholiad dydd Iau.

Cafodd y bleidlais ar gyfer tair sedd ward Cyfarthfa ei gohirio fis Mai yn sgil marwolaeth un o'r ymgeiswyr.

Roedd yr annibynwyr wedi ennill 16 sedd yn yr etholiadau fis yn ôl, gyda Llafur yn hawlio 14 sedd.

Yng Nghyfarthfa, fe etholwyd yr annibynwyr Geraint Thomas a Paul Brown, ynghyd â'r Llafurwr, David Chaplin.

Colli seddi

Mae'n golygu bod gan yr annibynwyr bellach 18 sedd, a Llafur 15 sedd.

Llafur oedd yn rheoli'r sir cyn yr etholiadau lleol ar 8 Mai, pan gollodd nifer o'u cynghorwyr, gan gynnwys arweinydd y cyngor, eu seddi.

Mae disgwyl i gynghorwyr gwrdd ddydd Llun cyn cyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor dydd Mercher.