'Ceidwadwyr Cymru angen arweinydd penodol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru angen arweinydd penodol a fydd yn gallu gwneud penderfyniadau allweddol, meddai Andrew RT Davies.
Mr Davies ei hun sy'n cael ei gydnabod fel arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ond mae rheolau'r blaid yn dweud nad oes ganddo'r awdurdod i benderfynu ar faterion y tu hwnt i grŵp y Ceidwadwyr yn y cynulliad.
Tra'n siarad ar raglen Sunday Politics Wales ar y BBC cyfaddefodd Mr Davies nad oedd gan y blaid yng Nghymru arweinyddiaeth gadarn a chlir.
Collodd y Torïaid dair sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos ddiwethaf gan adael y blaid gydag wyth sedd.
Y tair sedd a gollwyd i'r Blaid Lafur oedd Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Gogledd Caerdydd.
Wrth gael ei holi dywedodd Mr Davies: "Mae gennym ni frand Ceidwadol cryf yng Nghymru ond mae'n rhaid i ni fod yn gallu gwneud penderfyniadau gwleidyddol allweddol a rhaid i ni gael arweinydd penodol.
"Rydw i'n arwain ar ddatganoli, yr ysgrifennydd gwladol yn arwain ar faterion San Steffan ac mae cadeirydd y blaid wirfoddol yn arwain ar faterion gwirfoddol ... all y drefn hon ddim parhau."
Ychwanegodd Mr Davies bod gan Yr Alban "fodel da sydd wedi profi'n llwyddiannus".
Yn yr Alban arweiniodd Ruth Davidson ymgyrch ar wahân gan ganolbwyntio ar wrthwynebu galwadau'r SNP am ail refferendwm ar annibyniaeth.
Cipiodd y Torïaid ddeuddeg sedd ychwanegol yn Yr Alban ac mae ganddynt bellach 13 sedd.
Ychwanegodd Mr Davies: "Rhaid i ni gofio bod yna waith sylweddol i'w wneud wrth i ni symud ymlaen fel gwlad. Y Blaid Geidwadol yw'r blaid fwyaf yn San Steffan a rhaid i ni ffurfio llywodraeth."
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol roedd yna ergyd i'r Ceidwadwyr yng Nghymru wrth iddynt ddadlau pa arweinydd ddylai gael ei holi ar raglen deledu y BBC.
'Dim cweryla' rhwng Ceidwadwyr Cymru
Yr AC Darren Millar a gynrychiolodd y Ceidwadwyr yn y drafodaeth yn hytrach nag Andrew RT Davies neu Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.