Cynllun i daclo cytundebau dim oriau gofalwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi manylu ar ei chynlluniau i reoli cytundebau dim oriau i filoedd o weithwyr gofal.
O dan y drefn newydd bydd gan weithwyr y dewis ar ôl tri mis naill ai i barhau i fod ar gynllun dim oriau neu newid i gynllun isafswm oriau.
Mae cynigion hefyd i ddelio â'r broblem bod ymweliadau gofalwyr yn fyrrach na'r disgwyl oherwydd yr amser teithio rhwng ymweliadau.
Mae gwaith ymchwil yn dangos fod "nifer sylweddol" o weithwyr sy'n gofalu am bobl yn eu cartrefi ar gytundebau dim oriau.
Mae yna amcangyfrif y gall y nifer fod rhwng 56% ac 80%.
'Problemau difrifol'
Ond yn ôl cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, byddai'r cynigion newydd yn "gwneud dim" i ddelio â'r "problemau difrifol" sy'n bodoli yn y sector.
Mae y rhan fwyaf o weithwyr gofal Cymru yn gweithio i gwmnïau gofal preifat, yn hytrach na chael eu cyflogi yn uniongyrchol gan gynghorau.
Mae'r rhai sy'n darparu gofal annibynnol yn dweud nad cytundebau dim oriau yw'r brif broblem.
Yn hytrach maen nhw'n poeni sut mae cynghorau yn comisiynu gwasanaethau gofal - proses, medden nhw, sy'n "gostwng prisiau a safonau".
O dan gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru, byddai'n ofynnol i gyflogwyr gynnig cytundebau amrywiol gan gynnwys cytundeb lleiafswm oriau wedi'i seilio ar gyfartaledd yr oriau a weithiwyd.
'Sicrhau dewis'
Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Rebecca Evans: "Tra bod yn well gan rai gytundeb dim oriau gan werthfawrogi yr hyblygrwydd mae hynny yn ei gynnig - i eraill mae cytundeb o'r fath yn creu ansicrwydd ac ansefydlogrwydd a gallai hynny gael effaith andwyol ar eu bywydau.
"Mae'r cynlluniau a fyddwn yn eu cyflwyno ar gyfer yr ymgynghoriad yn sicrhau bod gan weithwyr ddewis.
"Ar ôl tri mis, gallant ddewis naill ai symud i gytundeb dim oriau arall neu drefniant gwahanol."
Ychwanegodd bod y cyfan yn ymwneud â diogelu safon gofal, parhad y gofal a sicrhau cyfathrebu rhwng gweithwyr a'r bobl maent yn gofalu amdanynt.
O dan y drefn newydd byddai'n rhaid i ddarparwyr gofal nodi'n bendant y gwahaniaeth rhwng amser teithio ac amser gofal wrth drefnu gwasanaeth.
Mae ymchwil yn dangos bod 39% o ymweliadau cartref Cymru yn llai na hanner awr.
Ychwanegodd Ms Evans bod cynllun o'r fath yn sicrhau y bydd pobl yn cael y gofal priodol ac na fydd amser teithio yn amharu ar hyd y gofal.
Daw'r cynigion newydd wedi gwaith ymchwil - gafodd ei gyhoeddi y llynedd - gafodd ei wneud i Lywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi clywed pryderon darparwyr gofal annibynnol. Eu prif bryder nhw yw bod cynghorau yn rhoi mwy o flaenoriaeth i'r gost yn hytrach na safon y gofal.
Yn 2015 roedd cynghorau yn talu £14.24 yr awr ar gyfartaledd wrth gomisiynu gwasanaethau gofal yn y cartref.
Dywedodd cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, Mario Kreft, bod angen adolygiad trylwyr.
"Dyw'r cynigion newydd yn gwneud dim i ddatrys y problemau sy'n deillio o gwmnïau yn cau lawr neu'n torri cytundebau am nad ydynt bellach ymarferol," meddai.
Bydd yr ymgynghoriad deufis yn para nes 7 Awst, ac mae gweinidogion yn gobeithio y byddant yn dod i rym yn Ebrill 2019.