Cyngor Sir Penfro i gyhoeddi dogfen troseddwr rhyw

  • Cyhoeddwyd
Michael John SmithFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michael John Smith ei gyflogi fel gweithiwr ieuenctid rhwng Mai 2001 ac Ionawr 2012

Mae cabinet newydd Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio'n unfrydol i gyhoeddi adroddiad cyfrinachol ar gyn-weithiwr ieuenctid gafodd ei garcharu am droseddau rhyw yn ymwneud â phlant.

Roedd y cynnig wedi ei wneud gan y cynghorydd Mike Stoddart, oedd yn dweud y dylai'r cyhoedd gael gwybod am y trafodaethau rhwng y cyngor a Michael "Mik" Smith.

Cafodd Smith, o Hwlffordd, ei garcharu am chwe blynedd yn 2014.

Roedd cabinet y cyngor wedi cael ei argymell i beidio cyhoeddi'r adroddiad, ond fe benderfynwyd yn erbyn yr argymhelliad mewn cyfarfod fore Llun.

Fe wnaeth y cabinet hefyd gytuno i sefydlu grŵp gweithredu i ystyried y materion gafodd eu hamlygu yn adroddiad Smith.

'Agored a thryloyw'

Dywedodd aelod o'r cabinet, Pat Davies ei bod yn "bwysig i'r mater gael ei setlo".

Ychwanegodd y prif weithredwr, Ian Westley bod y penderfyniad i beidio cyhoeddi'r adroddiad yn y gorffennol "â dim i'w wneud am guddio'r cynnwys", a bod yr awdurdod "wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw".

Yn Hydref 2015 dangosodd adroddiad gan weithiwr cymdeithasol annibynnol, sydd wedi dod i law BBC Cymru, bod Smith bron â chael ei dderbyn i fod yn ofalwr maeth wedi i'w reolwr llinell fethu â chanfod pryderon yn ymwneud â'i gyflogaeth.

Digwyddodd hyn er i Smith gael ei ddisgyblu am ymddygiad anaddas gyda phlant.

Camymddwyn difrifol

Yn ôl yr adroddiad, dim ond lwc wnaeth atal Smith rhag cael ei gymeradwyo fel gofalwr maeth.

Roedd Smith yn cael ei gyflogi fel gweithiwr ieuenctid gan Gyngor Sir Penfro rhwng 2001 a 2012 ac yn ystod y cyfnod hwn fe wynebodd dri gwrandawiad disgyblu.

Cafodd ei ddiswyddo am gamymddygiad difrifol ac yn 2013 dechreuodd yr heddlu ymchwilio ar ôl iddo gael ei gyhuddo o gam-drin rhyw yn erbyn bachgen.

Fe wnaeth Smith gyfaddef iddo ymosod ar blentyn o dan 13 oed gan ei annog i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhyw. Dywedodd hefyd ei fod wedi tynnu lluniau anweddus o'r plentyn.

Cyfaddefodd hefyd bod ganddo 1,136 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.

'O ddiddordeb i'r cyhoedd'

Cyflwynodd Mr Stoddart ei gynnig yn wreiddiol yn Ionawr 2017 cyn cael ei basio i'r cabinet ar gyfer penderfyniad terfynol.

Dywedodd bod yr adroddiad yn dangos yn glir "nad oedd y cyhoedd wedi cael gwybod y gwir am gais Mik Smith i fod yn rhiant maeth nac am fethiant ei reolwr llinell i gyfeirio at achos disgyblu blaenorol".

Ychwanegodd bod cyhoeddi'r adroddiad "o ddiddordeb i'r cyhoedd".