Brwydr Iona â chanser

  • Cyhoeddwyd
iona ac andy

Mae Iona Boogie a'i gŵr Andy wedi bod yn ddeuawd hynod boblogaidd yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Ond mae Iona ac Andy bellach wedi symud i dref Kelso yng Ngororau'r Alban.

Mae Iona wedi bod drwy gyfnod o salwch ac wedi derbyn llawdriniaethau a radiotherapi am ganser y fron. Bu hi'n siarad gyda Cymru Fyw am ei phrofiadau:

Newid byd

Fe symudon ni i ardal y Gororau yma yn Yr Alban fis Medi flwyddyn ddiwethaf achos o'n i wedi cael blwyddyn ofnadwy dros y flwyddyn cynt, gan 'mod i wedi cael canser y fron ac wedi colli fy mam yr union amser pan o'n i'n mynd drwy'r salwch.

Mi ges i lawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ac wedyn mi ges i radiotherapi yno hefyd, a chael gofal gwych.

Ar y bore pan o'n i fod i gael radiotherapi ges i alwad ffôn gan ofalwr Mam yn dweud bod nhw wedi ei ffeindio hi 'di marw. Felly o'n i mewn lle drwg ofnadwy i ddweud y gwir.

Roedd rhaid gohirio'r radiotherapi tan y mis Ionawr, felly roeddwn i'n galaru yn ogystal â thrio dod dros ganser, ac roedd cal y ddau efo'i gilydd yn anodd ofnadwy i mi. Mae canser nid yn unig yn effeithio arnat ti yn bersonol ond pawb o dy gwmpas di hefyd - dy deulu, ffrindia', pawb.

Wedi i flwyddyn fynd heibio o'r salwch nes i benderfynu mod i eisiau newid byd.

Oedd pethau 'di mynd reit ddistaw yn Sir Fôn pan o'n i'n byw yno, doedd 'na ddim lot o ganu, ac 'nathon ni feddwl am symud achos oedden ni wedi bod yn dod fyny i'r Alban ers tua 30 mlynedd, yn canu ac ati, gan fynd reit fyny i ogledd y wlad. Maen nhw wrth eu bodda' efo Cymru yma, mae'n ardal rygbi a bob dim felly.

'Nathon ni symud yma ym mis Medi, ac yn fuan wedyn es i am famogram - dwi'n cael un bob blwyddyn am bum mlynedd ar ôl cael canser.

Disgrifiad o’r llun,

Iona ar ei diwrnod olaf o radiotherapi tu allan i'r ysbyty yng Nghaeredin

Ges i lythyr i 'ngalw i nôl, ac o'n i mewn sioc pan wnaethon nhw ddweud bod yna gell fechan iawn yna - ar yr ochr arall y tro 'ma, ac roedd rhaid i mi gael llawdriniaeth arall.

O'n i mewn sioc - o'n i'n meddwl: 'Dim eto! Ma'n rhaid bod 'na gamgymeriad... Ond wedyn rhaid derbyn bo' fi'n lwcus iawn i gael y mamogram 'ma mewn amser, achos gyda'r symud ac ati fe allai popeth fod wedi cael ei ohirio, ac os fyswn i wedi colli'r mamogram yna, mae 'na siawns da y byswn i ddim yma rŵan.

Dwi'n annog pawb sy'n cael cynnig prawf fel 'na i fynd amdani achos maen nhw'n achub bywydau, yn bendant.

Ti'n meddwl o hyd mai pobl eraill sy'n cael canser, dim chdi. Ond yn ffodus gyda chanser y fron mae yna siawns da iawn o ddod dros y salwch - dwi'n meddwl bod tua 84% o bobl yn dod dwy'r math yma o ganser.

Mae'r gofal dwi 'di gael gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'r Alban wedi bod yn wych, y nyrsys, y doctoriaid a phawb arall.

Roedd y driniaeth yn yr ysbyty lleol yn yr Alban yn ffantastig ac yna'r radiotherapi yng Nghaeredin - roedd hi'n dipyn o siwrne i wneud bob dydd, ond alla i ddim cwyno achos roedden nhw'n wych yno.

Mae'r radiotherapi yn flinedig ofnadwy ond mae rhaid meddwl bod o'n neud daioni, ac felly mae rhaid ei wneud o.

Dal i ganu

'Da ni nôl yn canu dyddia' 'ma. Ar ôl cael canser y tro cyntaf o'n i wedi blino yn ofnadwy, a gan fod canu yn gallu cymryd lot allan o rywun yn emosiynol roedd hi'n anodd. Mae gen i ffrindiau gwych o 'nghwmpas i sydd 'di helpu fi drwy'r amseroedd anodd.

Dydyn ni ddim yn gwneud nosweithiau hwyr a hir ddim mwy, ond 'da ni'n gwneud ein penwythnosau yn Llandudno, gan wneud tri'r flwyddyn a bwcio artistiaid eraill i ganu efo ni yn y gwesty.

Fydda ni'n chwarae yn Y Galeri yng Nghaernarfon ddiwedd y flwyddyn, ac yn teithio i Wlad Belg ger Ypres i goffáu'r Cymry gollodd eu bywydau ganrif yn ôl yn y Rhyfel Mawr, a fydd 'na 50 yn dod efo ni.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y ddeuawd enwog, Iona ac Andy, ar lwyfan yn perfformio

Mae'n anodd i mi roi cyngor i eraill ynglŷn â'r salwch 'ma, ond fyswn i'n dweud i drio aros yn bositif bob amser, rhaid rhoi eich ffydd yn y system a'r llawfeddyg i wneud y gwaith.

Y ffordd o'n i'n delio efo petha' oedd i stopio meddwl mai canser oedd arna i, a 'mod i'n mynd i'r ysbyty i gael gwared â rhywbeth drwg. Achos dim ond wedyn ma'n taro chi 'o, ges i ganser...'

Mae angen bod yn amyneddgar iawn achos mae lot o aros - i weld meddyg, i gael sgan, am rhyw ganlyniad, am lythyr... felly mae angen lot o amynedd.

Trio mwynhau bob un diwrnod o hyn ymlaen ydw i, ac mae isho gafael yn y cariad gan y bobl sy' o'ch cwmpas chi.

Bydd cyfle arall i wrando ar sgwrs Iona gyda Shân Cothi ar raglen Bore Cothi BBC Radio Cymru ddydd Gwener, 16 Mehefin am tua 11:00