Ystyried caniatáu datblygiad tai er ffrae dros y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Y cynllun yw i adeiladu 366 o dai ym Mhenrhosgarnedd ar gyrion Bangor
Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ystyried cymeradwyo cais ar gyfer datblygiad tai dadleuol ym Mangor.
Mae'r mater yn ymwneud â chais gan gwmni adeiladu Morbaine o Lannau Mersi i adeiladu 366 o dai ar dir ym Mhen y Ffridd ym Mhenrhosgarnedd.
Cafodd y cais dadleuol ei wrthod gan Gyngor Gwynedd ar ddau achlysur, ond ym mis Awst 2016 fe apeliodd y cwmni yn erbyn y penderfyniad, a chafodd y mater ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cwestiynu "ymrwymiad" Lesley Griffiths i'r iaith Gymraeg yn dilyn ei sêl bendith amodol i'r datblygiad.

Fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran Ms Griffiths nad ydy'r llythyr yn nodi penderfyniad terfynol, ac y byddai hynny'n digwydd wedi iddi dderbyn rhagor o wybodaeth am y cynllun.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd nad oedden nhw wedi "derbyn penderfyniad ffurfiol ar y mater".
'Gwarthus'
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu safbwynt yr ysgrifennydd cabinet.
"Mae'n warthus bod Llywodraeth Cymru wedi ochri efo cwmni o Lannau Mersi yn hytrach na pharchu'r broses ddemocratiaeth, a barn Cyngor Gwynedd ar fater y tai ym Mangor," meddai Menna Machreth o'r gymdeithas.
"Mae hyn yn codi cwestiynau am ymrwymiad Lesley Griffiths i'r Gymraeg. Byddwn ni'n ystyried yr opsiynau sydd ar gael i ni ac eraill i herio hyn."