Annibynwyr yn galw am wrthwynebu ffair arfau Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn galw ar Gyngor Dinas Caerdydd i wrthod cefnogi ffair arfau yn y brifddinas yn y dyfodol.
Y Parchedig Aled Jones fydd yn gwneud y cynnig ar ran Cyfundeb Annibynwyr Ceredigion mewn cyfarfod yn Rhydaman.
Mae'r cynnig yn dweud bod y grŵp yn "gresynu" bod y cyngor wedi cefnogi'r digwyddiad, a throi Caerdydd yn "farchnad i brynu a gwerthu nwyddau sydd yn dinistrio bywydau tlodion ein byd".
Mae Cyngor Caerdydd wedi cael cais i ymateb.
'Dinistrio bywydau'
Cafodd y ffair, Defence Procurement, Research, Technology & Exportability, ei chynnal ddiwethaf yn Arena Motorpoint Caerdydd ym mis Mawrth.
Mae'r trefnwyr yn dweud ei fod yn gyfle i "ddysgu, rhannu arferion da ac arddangos arloesi" yn y diwydiant amddiffyn.
Ond roedd nifer o brotestiadau gan gynnwys un gan Gymdeithas y Cymod.
Mae'r cynnig gan Undeb yr Annibynwyr yn galw ar Gyngor Dinas Caerdydd i "wrthod rhoi cefnogaeth i gynnal ffair arfau yn y ddinas yn 2018 nac yn y dyfodol".
Mae'n nodi "gyda thristwch" bod ffair wedi ei chynnal eleni, ac yn addo protestio os bydd yn digwydd yn 2018.
"Rydym yn gresynu bod Cyngor Dinas Caerdydd wedi cefnogi'r fenter hon gan droi prifddinas ein gwlad yn farchnad i brynu a gwerthu nwyddau sydd yn dinistrio bywydau tlodion ein byd."
Mae'r cynnig yn ychwanegu bod "y fath fasnach yn anfoesol" a'i bod yn "drist bod gwerthwyr a phrynwyr yr arfau dieflig hyn yn cael croeso ym mhrifddinas ein gwlad; arfau sydd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i ladd pobl ddiniwed a dinistrio cymunedau mewn mannau fel Yemen a Gasa".
Mae'r BBC wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am ymateb.